Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Awst, nodais y byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o’r hyn a ddigwyddodd yn sgil canslo arholiadau eleni.
Heddiw, mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Louise Casella wedi cytuno i gadeirio adolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau cyfres arholiadau 2020. Louise yw Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru ac mae ganddi brofiad helaeth mewn rolau strategol o fewn y sector addysg yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad yn ystyried cwestiynau allweddol sydd wedi codi yn sgil y trefniadau a sefydlwyd ar gyfer cymwysterau yr haf hwn, a’r heriau a wynebwyd yn 2020. Mae’n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu yn sgil profiad eleni, er mwyn gallu llunio argymhellion a nodi materion i’w hystyried ar gyfer 2021. Bydd yr argymhellion hyn yn canolbwyntio ar anghenion ein dysgwyr a’u cynnydd, ac ar yr angen i barhau i gynnal safonau ac uniondeb y system addysg a chymwysterau yma yng Nghymru.
O ystyried yr angen dybryd i sefydlu mesurau ar gyfer cyfres arholiadau 2021, a datblygu trefniadau wrth gefn rhag ofn y daw cyfnod o darfu pellach ar y system, rwyf wedi gofyn i Louise roi adroddiad interim imi o’r prif ganfyddiadau erbyn diwedd Hydref, ac adroddiad terfynol ac argymhellion erbyn canol Rhagfyr.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.