Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 14 Hydref 2014, cyhoeddais y byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o’r sector llaeth, er mwyn ymateb i’r toriadau diweddar yn y prisiau llaeth ac ystyried effeithiolrwydd y Cynllun Llaeth a’r Cod Gwirfoddol yma yng Nghymru.
Ar ôl ymgynghori â’m Tasglu Llaeth yma yng Nghymru, mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Andy Richardson, aelod o’r Tasglu Llaeth yng Nghymru, wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn. Mae gan Mr Richardson gyfoeth o brofiad yn y sector llaeth ac mae wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau uchel eu proffil ar lefel y Deyrnas Unedig.
Rwy’n disgwyl i’r adolygiad hwn roi cyfeiriad strategol clir i’r sector llaeth ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Dylai esgor ar gyfres o argymhellion y gall y Llywodraeth a’r diwydiant eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau cadernid y diwydiant llaeth yng Nghymru, yn ogystal â thwf economaidd a swyddi ychwanegol yn y sector.
Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos â Mr Richardson a’r Tasglu Llaeth yn ystod y broses adolygu ac at dderbyn yr adroddiad wedi’i gwblhau ym mis Chwefror 2015.