Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf am yr Adolygiad Annibynnol o'r sector Cynghorau Cymuned.
Ar 23 Mehefin, cyhoeddais gais am ddatganiadau o ddiddordeb i lenwi’r ddwy swydd wag olaf ar banel yr Adolygiad hwn. Yn sgil cyhoeddi'r cais, mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai Jessica Morgan o Rwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro dros Fenter a Datblygu, ac Edward Humphreys, Clerc Tref i Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn, sydd wedi eu penodi i'r ddwy swydd hyn.
Mae gan Jessica brofiad helaeth o weithio yn y gymuned leol fel rhan o'i rôl ym mhrosiect PLANED. Bu’n hwyluso datblygiadau lleol a arweinir gan y gymuned, ac yn rheoli cyllid Ewropeaidd LEADER am y 18 mlynedd ddiwethaf.
Mae Edward wedi gwasanaethu fel clerc i gynghorau lleol ers 1996, ac mae ganddo brofiad o weithio gyda chynghorau cymuned a thref, mawr a bach, mewn amgylcheddau gwledig a threfol. Ar hyn o bryd, mae'n Glerc Tref i Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn, ac yn Glerc Tref i Gyngor Cymuned yr Ystog.
Mae Jessica ac Edward yn ymuno â'r cyd-gadeiryddion Gwenda Thomas a Rhodri Glyn Thomas, ac aelodau eraill y panel, y Cyng. Kathryn Silk a William Graham.
Cynhaliodd y panel ei gyfarfod cyntaf ar 11 Medi. Mae'r panel yn awyddus i gael sylwadau gan yr holl randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau er mwyn sicrhau bod yr adolygiad, ac unrhyw argymhellion, yn berthnasol, yn briodol, ac yn helpu cynghorau cymuned i wneud gwahaniaeth i'w cymuned leol.
Heddiw, mae'r panel wedi cyhoeddi cais am dystiolaeth, ac mae'r aelodau'n edrych ymlaen at gael sylwadau o bob rhan o Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am y cais am dystiolaeth ar gael yn http://gov.wales/topics/localgovernment/communitytowncouncils/review-of-community-town-council-sector/?skip=1&lang=cy a cheir cysylltu â'r panel drwy e-bostio: Adolygiad.CTC.Review@gov.wales
Bydd yr adolygiad ar waith dros gyfnod o flwyddyn. Disgwylir i'r Panel gyflwyno adroddiad ar ei gasgliadau yn yr hydref 2018.