Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a Ken Skates y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon yw sicrhau bod gennym ddiwydiant ffermio llewyrchus yng Nghymru. Un o’r sbardunau gorau sydd gennym i’n helpu i wireddu’r nod hwnnw yw darparu hyfforddiant ac addysg o’r radd flaenaf i’r rheini sydd eisoes yn y diwydiant a hefyd i’r rheini sydd ar hyn o bryd mewn coleg ac am yrfa mewn ffermio.

I’n helpu â’r gwaith pwysig hwn, rydym wedi comisiynu’r Athro Wynne Jones OBE, cyn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams i gynnal adolygiad annibynnol o’r sgiliau a’r wybodaeth a addysgir gan golegau addysg bellach i’r diwydiant ffermio.

Bydd yr adolygiad yn cymharu’r hyn a addysgir, gan gynnwys trwy brentisiaethau, ag anghenion datblygu hysbys y diwydiant.  Caiff yr adolygiad ei gynnal yng nghyd-destun y prif gyfleoedd sydd ar gael i’r diwydiant a hefyd yr heriau fydd yn ei wynebu yn y dyfodol.

Rydym wedi gofyn i’r Athro Jones gyflwyno adroddiad ar ei adolygiad a’i argymhellion erbyn diwedd Ebrill 2014.  Rydym yn credu y bydd o help aruthrol i ni wrth i ni weithio i wneud y diwydiant amaeth yng Nghymru yn fwy proffesiynol a helpu busnesau fferm unigol i fod yn fwy proffidiol, yn fwy cynaliadwy ac yn llai dibynnol ar daliadau uniongyrchol a fydd dros amser yn sicr o grebachu.