Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae’r sector llaeth yn rhan hanfodol bwysig o ddiwydiant bwyd-amaeth Cymru, gan fod llaeth a chynnyrch llaeth yn cyfrif am draean o’n cynhyrchiant amaethyddol. Mae 1,835 o ffermwyr godro yng Nghymru a chynhyrchwyd 1,670 miliwn o litrau o laeth ganddynt yn y flwyddyn odro ddiwethaf (2013/14).
Mae’r gostyngiad ym mhrisiau llaeth yn destun gofid mawr imi. Mae’n effeithio ar elw a chynaliadwyedd y sector ac yn ergyd i’r hyder sydd ei angen i fuddsoddi. Cyn y toriadau diweddaraf, roedd prisiau llaeth uwch a thywydd da gyda’i gilydd wedi helpu i gynyddu lefelau cynhyrchu gan wneud i ffermwyr godro deimlo’n fwy sicr wrth gynllunio a buddsoddi ar gyfer y dyfodol.
Mae’r holl arwyddion yn dangos bod ar y byd angen mwy o laeth. Mae poblogaeth y byd yn cynyddu ac yn dod yn fwyfwy cefnog gan arwain at fwy o alw am laeth a chynnyrch llaeth. Rwy’n deall bod rhai yn awgrymu y dylem o’r herwydd gynhyrchu llai o laeth – i gyfyngu ar y galw er mwyn cadw prisiau’n uchel. Nid dyna’r ateb yn fy marn i. Unig ganlyniad cynhyrchu llai yng Nghymru a’r DU fyddai mewnforio mwy. Rhaid inni allu cystadlu ar lefel prisiau allforio gwledydd eraill sy’n cynhyrchu llaeth. O’i reoli’n gynaliadwy, mae sector llaeth Cymru mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar y duedd o gynnydd tymor hir yn y galw am gynnyrch llaeth.
Rydym wedi gwneud defnydd da yng Nghymru o’r Rhaglen Datblygu Gwledig diweddaraf, gyda Cyswllt Ffermio’n creu cyfres o becynnau i gefnogi busnesau godro a llaeth. Mae ffermwyr godro wedi gweld gwerth y gefnogaeth, gyda thros dri chwarter ohonynt wedi manteisio ar help Cyswllt Ffermio. Bydd y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf ar gyfer 2014-2020 yn caniatáu inni barhau â’r gwaith da a byddaf am fanteisio’n llawn ar bob cyfrwng y mae’n ei gynnig i ddarparu gwasanaethau cynghori, cynnal gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, datblygu cadwyni cyflenwi a buddsoddi cyfalaf i gefnogi’r gweithgareddau hyn. Mae’r Tasglu Llaeth, sydd â chynrychiolwyr o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi yn perthyn iddo, wedi bod yn ein cynghori ar sut orau i ddefnyddio’r Rhaglen Datblygu newydd i helpu i ddatblygu’r diwydiant.
Serch hynny, wrth i’r diwydiant ddechrau ar gyfnod o newid ac ar gydbwysedd newydd rhwng y cyflenwad llaeth a’r galw amdano, rwy’n credu mai nawr yw’r amser i bwyso a mesur y diwydiant llaeth yma yng Nghymru. Mae’r Cynllun Llaeth a’r Cod Gwirfoddol wedi bod yn eu lle ers dwy flynedd ac yn unol ag addewid y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd diwethaf, rwy’n credu y dylem edrych o’r newydd ar eu heffaith ac ystyried beth dylem ei wneud nesaf. I wneud hynny, byddaf yn holi fy Nhasglu Llaeth pwy ddylai ein helpu i gynnal yr adolygiad ar ein rhan ac i baratoi’r cylch gorchwyl.
Cafodd adolygiad annibynnol y DU o’r Cod Gwirfoddol ei gynnal gan Alex Ferguson MSP a’i gyhoeddi wythnos ddiwethaf. Rwy’n cytuno â phrif argymhelliad yr adroddiad y dylai ffermwyr a phrynwyr llaeth fel ei gilydd wneud yn siŵr eu bod yn deall egwyddorion y Cod a mynd i’r afael â nhw. Fodd bynnag, hoffwn ystyried yn gyntaf a oes unrhyw beth y gallwn ni yng Nghymru ei wneud i wella’r ffordd y mae ffermwyr a phrynwyr llaeth yn gwneud busnes â’i gilydd.
Rwy’n hyderus bod dyfodol diogel a phroffidiol i’r diwydiant a thrwy’r adolygiad hwn ar y cyd â’r Tasglu Llaeth, rwy’n gobeithio y gallwn weld ble mae’r cyfleoedd gorau a gweithio gyda’n gilydd i wireddu’r amcanion hynny. Mae gennym y tir, y gwartheg, yr hinsawdd, y llafur a’r seilwaith – a’r ewyllys i wneud gwahaniaeth go iawn.