Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cyhoeddais gynigion ar 30 Medi i gynnal adolygiad annibynnol o’r ddarpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Nod yr adolygiad yw sicrhau bod Cymru yn parhau i elwa ar gyrsiau perfformio dwys, o safon sy’n canolbwyntio ar berfformiadau ymarferol a galwedigaethol. Mae darpariaeth o’r fath yn hanfodol i feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiannau creadigol a bywyd diwylliannol Cymru.
Rwy’n falch iawn bod yr Arglwydd Murphy o Dorfaen wedi cytuno i arwain yr adolygiad.
Mae cylch gorchwyl yr adolygiad i’w weld isod. Cyflwynir adroddiad cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016.
Cylch Gorchwyl
Mae darparu cyrsiau perfformio dwys, o safon, sy’n canolbwyntio ar berfformiadau ymarferol a galwedigaethol yn hanfodol i feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiannau creadigol a bywyd diwylliannol Cymru.
Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, sy’n eiddo i Brifysgol De Cymru, yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru. Mae’r Coleg Cerdd a Drama’n cystadlu ag ystod ryngwladol o gonservatoires a cholegau sy’n arbenigo yn y celfyddydau. Mae prifysgolion eraill yng Nghymru yn cynnig cyfuniad o gyrsiau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, cerddoriaeth a pherfformio.
Bydd yr adolygiad yn archwilio’r trefniadau presennol i hybu conservatoirs a chyrsiau perthnasol sy’n ymwneud â’r celfyddydau perfformio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys:
a. rôl Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru fel sefydliad cenedlaethol, sydd â phroffil rhyngwladol, ac sy’n gweithredu mewn ffordd sy’n arwain at fudd y cyhoedd;
b. y posibilrwydd i Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru annog dysgwyr o gefndiroedd llai breintiedig, a grwpiau eraill na chânt eu cynrychioli’n ddigonol, i fanteisio ar addysg uwch;
c. y modd y gall Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru weithio ar ran a chyda’r gymuned leol a chenedlaethol, i hybu datblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a chreu cysylltiadau rhwng y Coleg â diwydiannau perthnasol a chael cymorth ganddynt;
ch. y berthynas rhwng yr hyn y mae Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru yn ei ddarparu fel conservatoire a’r hyn y mae sefydliadau addysg uwch eraill Cymru yn ei ddarparu mewn meysydd cysylltiedig.
Gofynnir i’r adolygiad nodi sut y gellid datblygu’r cwricwlwm yn y dyfodol gan gynnwys sefydlu theatr gerdd i israddedigion a hyfforddiant dawns galwedigaethol/proffesiynol yng Nghymru.
O gofio mai mater i brifysgolion unigol, fel sefydliadau hunanlywodraethol, yw strwythurau a threfniadau llywodraethu mewnol, bydd yr adolygiad yn gwneud argymhellion ynghylch ariannu conservatoires a chyrsiau cysylltiedig yng Nghymru yn y dyfodol a hynny yn erbyn cefnlen o newidiadau sylweddol ym myd addysg uwch, llywodraethu cenedlaethol a fframweithiau sicrhau ansawdd. Bydd yr adolygiad yn archwilio sut y mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rhoi cymorth ariannol i gonservatoires a chyrsiau cysylltiedig, a chaiff ei gynnal ochr yn ochr â’r adolygiad ehangach o drefniadau llywodraethu a rheoleiddio addysg a hyfforddiant ôl 16 sy’n cael ei gynnal gan yr Athro Ellen Hazelkorn.
Bydd hwn yn adolygiad cynhwysfawr a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth. Caiff yr holl randdeiliaid perthnasol eu gwahodd i gyfrannu gan gynnwys darparwyr presennol addysg uwch Cymru, y diwydiannau creadigol a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Amserlen
Caiff adroddiad yr adolygiad ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ebrill 2016.