Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fis Gorffennaf diwethaf, fe roddais wybod i Aelodau'r Cynulliad fod Prif Arolygydd Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi ysgrifennu ataf i ofyn am fy nghefnogaeth i gynnal adolygiad o rôl Estyn, i asesu goblygiadau'r diwygiadau addysgol i waith yr Arolygiaeth yn y dyfodol.  Roeddwn i'n gwbl gefnogol o'r cynnig, er mwyn inni barhau i wella safonau yn ein system addysg.

Cafodd yr adolygiad annibynnol, a gyhoeddir heddiw ar wefan Estyn, ei gynnal gan Yr Athro Graham Donaldson. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn cynnal adolygiadau o systemau addysg ar draws y byd, gan gynnwys Awstralia, Portiwgal,  a Japan.

Fel y dywed yr Athro Donaldson yn ei adolygiad “O ran diwygio addysg yng Nghymru, bydd mesur ei lwyddiant yn ddibynnol ar y graddau y bydd yn arwain at safonau uwch o gyrhaeddiad a dysgu mwy perthnasol ar gyfer pob disgybl”.  Prin bod angen dweud bod gan waith yr Arolygiaeth rôl bwysig i'w chwarae yn y diwygiadau sydd ar y gweill.

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a byddaf yn gweithio gydag Estyn a'r system addysg ehangach i ystyried yr argymhellion a'u goblygiadau i'n proses ddiwygio.

Gallwch ddarllen yr adroddiad ar wefan Estyn.