Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 9 Ebrill cyhoeddais y byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o gryfder ffermio yng Nghymru. Penodais Kevin Roberts cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr NFU yng Nghymru a Lloegr a chyn Brif Weithredwr y Comisiwn Cig a Da Byw i gynnal yr adolygiad ar fy rhan. Rwyf bellach wedi derbyn llythyr gan Kevin sy'n disgrifio ei ganfyddiadau a'i argymhellion cychwynnol. Rwyf wedi ymateb i Kevin a byddaf yn cyhoeddi'r ddau lythyr.

Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad yn ystyried dau brif faes.  Y cyntaf oedd asesu ymateb Llywodraeth Cymru a'r diwydiant amaeth i'r tywydd drwg a gafwyd fis Mawrth eleni ac i gynghori ar drefniadau i ddelio â digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Roedd ail ran yr adolygiad yn asesu cadernid ffermio yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, gan roi sylw arbennig i'r sectorau eidion a defaid yn y mynyddoedd a'r bryniau, a gwneud argymhellion ynghylch pa fesurau allai'u gwneud yn gadarnach (ar lefel ymarferol ac ariannol) i sichrau cynhaliadwyedd amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae Kevin bellach wedi cwblhau cam cyntaf ei adolygiad.  Mae'n cynnig rhai argymhellion cychwynnol ac rwyf wedi'u derbyn. Mae'n credu bod fy ymyriadau yn ystod y cyfnod o dywydd cas yn briodol. Mae'n credu hefyd bod modd dysgu nifer o wersi o'n profiad o ran rhoi ymateb cyflym a chyson yn y dyfodol. Dywedodd y gallai fod wedi rhoi nifer o fesurau ar waith yn gynt be bai'r wybodaeth ynghylch difrifoldeb y sefyllfa a ddaeth i'n llaw o lawr gwlad wedi bod yn gliriach, yn enwedig mewn ardaloedd penodol.

Pe bai hyn wedi bod yn achos o glefyd anifeiliaid neu argyfwng ar lefel y wlad gyfan, byddai gweithdrefnau pendant i ni eu dilyn a'u rhoi ar waith. Fodd bynnag, nid oes trefniadau tebyg yn bod ar gyfer digwyddiadau lleol sy'n ymwneud â'r tywydd neu fath arall o argyfwng. Un o'r prif argymhellion yn llythyr Kevin yw sefydlu Cynllun generig ar gyfer Ymdrin â Hapddigwyddiadau (CMP). Tynnodd fy sylw hefyd at ddiffyg cysondeb rhwng awdurdodau lleol o safbwynt llacio'r rheolau ar gyfer caniatáu claddu stoc marw ar y fferm.

Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ddatblygu'r CMP hwn ar y cyd â rhanddeiliaid ym mhob rhan o Gymru er mwyn i mi allu rhoi ymateb strwythuredig os bydd angen yn y dyfodol. Bydd y cynllun hwn yn sicrhau ein bod yn cael gwybodaeth gywir ac amserol er mwyn i ni fedru ymateb mewn ffordd briodol i sefyllfa sy'n datlygu neu'n newid. Rwy'n credu ei bod yn bwysig wrth symud yn ein blaenau ein bod yn mynd i'r afael â'r digwyddiadau hyn ac yn darparu'r cyngor mewn ffordd gyson ym mhob rhan o Gymru.

Yn ogystal, mae Kevin wedi tynnu ein sylw at yr angen i weithio gyda chwmnïau yswiriant i ystyried potensial cynnig yswiriant 'argyfwng' ar gyfer colledion sylweddol. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwn, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud hefyd ag Elfen Hwyluso'r Drefn yr agenda Rhannu Costau a Chyfrifoldeb.

Mae ail ran yr adolygiad sy'n canolbwntio'n bennaf ar gadernid tymor hir ffermio yng Nghymru, wedi dechrau. Mae Kevin eisoes wedi cynnal nifer o gyfarfodydd â ffermwyr a rhanddeiliaid y diwydiant a chynnig argymhellion cychwynnol ynghylch pecyn integredig o gymorth ar gyfer y sectorau eidion a defaid ar fynyddoedd a bryniau Cymru trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig yn y dyfodol. Mae hyn yn ategu argymhellion a wnes i cyn hynny yn fy Fforwm Ucheldir, a daw ar adeg pwysig wrth i mi lunio cynlluniau manwl ar gyfer y diwygiadau yn y PAC yng Nghymru o 2015 ymlaen.

Hoffwn ddiolch i Kevin am ei waith hyd yma ac rwy'n croesawu ei adolygiad annibynnol o'r sefyllfa yng Nghymru. Rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion yn ei adroddiad interim ac edrychaf ymlaen at dderbyn ei adroddiad terfynol yn ddiweddarach eleni.