Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi
Mae’n dda gennym ni gyhoeddi bod adroddiad gan yr Athro Karen Graham, o Brifysgol Glyndŵr, wedi dod i law, sef yr Adolygiad Annibynnol o Gofrestru, Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Plant ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (adolygiad Graham).
Gofynnwyd i’r Adolygiad, a ddechreuodd ar ei waith ym mis Hydref 2013, edrych ar y systemau a ddefnyddir i reoleiddio ac arolygu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni’r diwygiadau lles a gyflwynwyd a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar sut y byddai Cyllid a Thollau EM yn sicrhau bod gofal plant yn ddi-dreth. Hefyd gofynnwyd i’r Adolygiad wneud argymhellion ar gyfer gwella, lle bo hynny’n briodol.
Mewn ymateb, mae’r Adolygiad wedi gwneud nifer o sylwadau ac argymhellion diddorol, a byddaf yn ystyried y rhain yn fanwl dros yr haf. Cyhoeddir yr adroddiad ar ôl y gwyliau, ochr yn ochr â’m hymateb cyntaf i’w argymhellion.
Wrth gwrs, bydd angen i ni ystyried yr argymhellion hyn ochr yn ochr â chanlyniadau’r gwerthusiad a’r archwiliad o’r Cyfnod Sylfaen, yn ogystal â’r adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Bwriedir i’r casgliadau at ei gilydd greu sylfaen eang o dystiolaeth a fydd yn ein helpu i ddatblygu polisïau yn y dyfodol, gan sicrhau ansawdd a chodi safonau ar draws darpariaethau gofal ac addysg y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.