Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae’n rhaid i Gymru gymryd pob cam er mwyn datgarboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth, gwella ansawdd yr aer a lleihau tagfeydd. Bydd cyflawni’r amcanion hyn o fudd i’n hamgylchedd, ein heconomi a’n cymdeithas. Mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol a chymell pobl i’w hystyried yn gwbl allweddol er mwyn annog pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir. Gallai fod angen mesurau ar gyfer rheoli’r galw, fodd bynnag, er mwyn cyflawni newid moddol sylweddol o geir i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth yng Nghymru.

Am y rheswm hwn rwyf wedi comisiynu adolygiad annibynnol ynghylch y manteision a’r heriau sydd ynghlwm wrth wahanol ddulliau o reoli’r galw, gan gynnwys codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd.

Rwy’n falch iawn fod Derek Turner CBE wedi cytuno i gwblhau’r astudiaeth hon. Mae ganddo brofiad helaeth o gynnig cyngor polisi strategol ar drafnidiaeth ac mae ganddo gryn arbenigedd ym maes codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd. Disgwylir i’r adolygiad adrodd ar ei gasgliadau yn yr Hydref eleni a bydd yn cyfrannu at ein polisi cenedlaethol a rhanbarthol ynghylch y mater hwn. Bydd hyn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â gwaith parhaus Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac ystyriaethau Cyngor Caerdydd ynghylch codi tâl atal tagfeydd.

Mae cylch gorchwyl yr Adolygiad Annibynnol o Godi Tâl ar Ddefnyddwyr y Ffyrdd yng Nghymru ar gael isod.

Cylch Gorchwyl

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi penodi Derek Turner CBE i arwain adolygiad annibynnol o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru.

Diben yr adolygiad yw adrodd wrth y Gweinidogion ar y canlynol:

  • Y sail resymegol dros wahanol fathau o ddulliau o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys cyngor clir ar amcanion unrhyw gynllun o'r fath. Gallai hyn gynnwys gwahanol amcanion posibl gan gynnwys lleihau tagfeydd, gwella ansawdd yr aer neu leihau allyriadau carbon, cynyddu cyfraddau teithio llesol, annog newid moddol ac ymddygiadau teithio - fel teithio i'r ysgol.
  • Yr opsiynau gweithredu ar gyfer gwahanol ddulliau o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru gan gynnwys asesiad o'r Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau mewn perthynas â'r opsiynau a'r gwahanol dechnolegau sydd ar gael: Beth yw costau cymharol y gwahanol dechnolegau; gallu pob technoleg i fodloni'r gofynion sy'n ofynnol; pwy allai ysgwyddo'r costau hyn - y defnyddiwr neu'r awdurdod neu rywun arall? 
  • Yr achos dros fframwaith cenedlaethol cyffredinol ar gyfer unrhyw bolisïau lleol neu is-ranbarthol o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd, a hynny er mwyn osgoi unrhyw effeithiau ehangach andwyol a gormodol (er enghraifft yr effeithiau ar yrwyr y byddai gofyn iddyn nhw dalu mwy nag un tâl, ac er mwyn gwarchod a dadlau achos yr opsiwn o gynnwys hyn maes o law mewn polisi cenedlaethol).
  • Pa bolisïau neu ymyriadau trafnidiaeth eraill y gallai fod eu hangen er mwyn cyflwyno'n llwyddiannus ddull o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd, ac ym mha gam o'r amserlen weithredu (er enghraifft, er mwyn gwrthbwyso unrhyw oblygiadau andwyol o ran dosbarthiad). Dylai hyn ystyried yn benodol yr ymwneud â threthiant moduro, a hynny er mwyn ystyried effaith gyllidol gyrru yn gyffredinol. Nid yw'n ofynnol ar hyn o bryd i bolisïau o'r fath fod wedi'u datganoli.
  • Asesiad o ba mor debygol yw cynllun o'r fath o gael ei dderbyn, a'r materion gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd y bydd yn rhaid mynd i'r afael â nhw gan unrhyw un sy'n dymuno bwrw ymlaen â chynllun o'r fath ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol.
  • Materion sy'n debygol o effeithio ar ba mor dderbyniol fyddai unrhyw bolisi o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd, gan gynnwys lefel y tâl, pa mor deg a chyfartal y byddai'n cael ei weithredu (o fewn ardal y cynllun a thu hwnt) a'r defnydd posibl o'r refeniw, gan gynnwys dadleuon a blaid ac yn erbyn neilltuo, er mwyn cyflawni gwahanol amcanion polisi.
  • Y goblygiadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol ac ymddygiadol ehangach o safbwynt codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys materion perthnasol sy'n gysylltiedig â'r ffin â Lloegr.
  • Y dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd ac unrhyw wersi sydd wedi'u dysgu o weithredu cynlluniau o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yn un ai weddill y DU neu yn rhyngwladol.

Mae'r term "codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd" yn cynnwys yr holl ddulliau ymarferol o godi tâl, gan gynnwys codi tâl ar sail pellter, codi tâl i atal tagfeydd, codi tâl i barcio mewn gweithleoedd ac ardollau ar barcio mewn safleoedd manwerthu.

Mae disgwyl i hyn ddigwydd drwy adolygiad cychwynnol, a fydd yn sail i waith manwl yn y dyfodol.

Yn ogystal, gallai fod angen i'r adolygwr gyfrannu o bryd i'w gilydd at waith llunio polisi Gweinidogion Cymru, a hynny drwy ddarparu tystiolaeth berthnasol a chyfredol a dadansoddi'r materion uchod.

Bydd yr adolygydd yn gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru a dylai adrodd wrth Weinidogion Cymru erbyn hydref 2020.

Rhannu’r dudalen hon