Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r adolygiad hwnnw wedi’i gwblhau erbyn hyn ac rwyf heddiw yn cyhoeddi adroddiad yr adolygiad, ynghyd ag ymateb ar y cyd gan y ddwy Lywodraeth: https://beta.gov.wales/adolygiad-annibynnol-bargen-ddinesig-bae-abertawe.
Rwyf yn croesawu’r adroddiad. Mae’n rhoi’r hyder inni, i bartneriaid lleol ac i’r sector preifat fuddsoddi yn y rhanbarth, gan sbarduno twf economaidd a newid yr economi. Rwyf yn parhau’n ymrwymedig i lwyddiant y Fargen ac rwyf yn benderfynol o’i gweld yn cyflawni er budd cymunedau’r De-orllewin.