Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r datganiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Senedd ynghylch trefniadau cymorth a Bwrdd Gwella a Sicrwydd Cyngor Sir Powys (y Cyngor) yn dilyn adolygiad allanol a gynhaliwyd gan Sean Harriss ym mis Mawrth.

Sefydlwyd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd (y Bwrdd) ym mis Mawrth 2018 i ddarparu her a chymorth i Gyngor Sir Powys (y Cyngor) mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion a Phlant) a materion corfforaethol er mwyn ymateb i arolygon Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2017 (Plant) a 2018 (Oedolion) ac argymhellion adolygiad diagnostig Sean Harriss.

Rhagwelwyd, ar adeg ei sefydlu, y byddai’r rhaglen o gymorth statudol, gan gynnwys gwaith y Bwrdd, yn para oddeutu dwy flynedd. O ystyried bod y Bwrdd wedi bodoli ers dros dwy flynedd, roeddwn yn teimlo ei bod yn briodol ac yn amserol cynnal adolygiad allanol ffurfiol llawn er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth statudol a ddarparwyd yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

O ganlyniad, cytunais y câi Mr Harriss gynnal adolygiad allanol o ddiben/cylch gwaith cyffredinol y Bwrdd a’i effeithiolrwydd, o ran ei gylch gwaith presennol o fonitro cynnydd mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol (Plant ac Oedolion), Addysg, a Materion Corfforaethol. Roedd adolygiad Sean hefyd yn pwyso a mesur a oes angen cynnig her a chymorth statudol annibynnol o hyd yn y tri maes. Mae copi o adroddiad Mr Harriss wedi’i gynnwys yn yr atodiad.

Roedd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad yn galonogol iawn, yn arbennig y ffaith ei fod yn cydnabod y cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud ers sefydlu’r Bwrdd Gwella a Sicrwydd yn 2018. Mae hyn, ynghyd â thwf capasiti yn y Cyngor, yn golygu bod y sefydliad mewn sefyllfa llawer gwell i ysgogi ei welliannau ei hun.

Ar y sail hon, rwyf wedi cytuno i newid o’r trefniant o gael Bwrdd Gwella a Sicrwydd statudol i drefniadau lleol ar gyfer goruchwylio ac ysgogi gwelliannau, gyda chyfnod pontio cyn i’r Bwrdd gael ei ddirwyn i ben yn ffurfiol – yn amodol ar gyflwyno cynigion boddhaol ar gyfer trefniadau eraill.

Rwyf bellach wedi ystyried trefniadau eraill y Cyngor ac rwy’n hyderus y byddant yn galluogi Cyngor Powys i reoli ei welliant ei hun yn effeithiol.

Bydd prosesau herio allanol a darparu cyngor ynghylch meysydd gwasanaeth penodol, gan gynnwys addysg a gwasanaethau cyhoeddus, yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r trefniadau newydd hyn yn ogystal â rôl sicrwydd gryfach ar gyfer craffu.

Mae’r Cyngor bellach wedi symud i’r cyfnod pontio ac mae disgwyliad y bydd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd, ar yr amod na fydd unrhyw amgylchiadau annisgwyl yn codi, yn cyfarfod yn ffurfiol am y tro olaf ym mis Hydref.

Yn olaf, hoffwn ganmol y Cyngor a’r Bwrdd Gwella a Sicrwydd am y cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf.