Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau’n gwybod am fy mwriad i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol i’r gofal a ddarperir yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot . Hoffwn roi diweddariad i Aelodau am drefniadau’r adolygiad hwn.

Mae’r Bwrdd Iechyd eisoes yn cymryd nifer o gamau i sicrhau bod gofal diogel o ansawdd uchel yn cael ei gyflenwi i gleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae cynnydd yn cael ei fonitro gan y Prif Swyddog Meddygol a’r Prif Swyddog Nyrsio. Fel rhan o’r gweithredu hwn mae adolygiad allanol o ansawdd a diogelwch wedi’i gomisiynu gan y Bwrdd Iechyd.

Fodd bynnag, roeddwn i’n teimlo bod angen adolygiad annibynnol ychwanegol hefyd yn canolbwyntio ar ofal cleifion hŷn mewn dau ysbyty, yn dilyn cyfarfod gyda theulu a ddisgrifiodd eu profiadau gyda gofal eu perthynas oedrannus. Bydd yr adolygiad allanol annibynnol yn ystyried y gofal a ddarperir yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot a bydd yn ychwanegol i’r adolygiad sydd eisoes wedi’i gomisiynu gan y Bwrdd Iechyd. Gan ddefnyddio methodoleg adolygu sefydledig fydd yn mynd at wraidd y sefyllfa, bydd y gwaith yn cwmpasu darpariaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gofal i bobl hŷn, gan ganolbwyntio’n fwy manwl ar y meysydd penodol:

  • sut y caiff safonau nyrsio proffesiynol eu diogelu a’u cyflenwi’n gyson, a phennu sut mae’r Bwrdd Iechyd yn ymateb i ddiffygion wrth gyflawni’r safonau hyn;
  • y diwylliant gofal, gan ganolbwyntio’n benodol ar ofal cleifion hŷn yn y wardiau meddygol;
  • ymateb i gwynion, gan edrych yn benodol ar sut y caiff cwynion eu trin gan y Bwrdd Iechyd a sut y caiff gweithwyr proffesiynol eu dal yn atebol am ddiffygion gofal a ganfuwyd drwy ymchwilio i gwynion (gan gynnwys ymchwiliadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed); a
  • gweinyddu a chofnodi meddyginiaethau, gan edrych yn benodol ar sut y caiff meddyginiaethau eu rhoi i gleifion sydd â nam gwybyddol neu sy’n wynebu heriau eraill wrth lyncu meddyginiaeth.

Rwyf i’n falch i gadarnhau bod yr Athro June Andrews, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) yn Ysgol Gwyddor Gymdeithasol Gymwysedig Prifysgol Stirling, yr Alban, wedi cytuno i arwain yr adolygiad hwn.

Mae’r Athro Andrews yn arbenigwr blaenllaw drwy’r byd mewn gofal i bobl â dementia ac mae ganddi brofiad eang yn y GIG gan iddi fod yn gyfarwyddwr nyrsio gweithredol yn y gorffennol, bu’n gweithio fel Uwch Was Sifil yn Llywodraeth yr Alban, bu’n Ysgrifennydd Bwrdd y Coleg Nyrsio Brenhinol (yr Alban) ac yn 2012 dyfarnwyd iddi wobr cyflawniad oes gan bedwar Prif Swyddog Nyrsio’r DU am ei gwaith yn gwella gofal dementia. Caiff ei chydnabod yn rhyngwladol am ei chyfraniad at welliannau parhaus mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd yr adolygiad yn dechrau ym mis Rhagfyr ac yn parhau i mewn i ddechrau’r flwyddyn nesaf. Bydd canfyddiadau’r adolygiad, ynghyd ag argymhellion, ar gael i’r cyhoedd.

Mae cylch gorchwyl llawn yr adolygiad i’w weld yn atodiad 1.


Atodiad 1

Adolygiad i fynd at wraidd ymarfer (“Deep Dive”) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol ABM

1. Diben a Chwmpas
Bydd yr adolygiad, sydd i’w gynnal gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Prifysgol Stirling, yn cynnig asesiad annibynnol o’r strategaethau a’r ddarpariaeth gyfredol mewn perthynas â gofal pobl hŷn, gan gynnwys y rheini â dementia, yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot ac yn darparu adroddiad ar addasrwydd i’r diben o ran safonau perthnasol yn seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd yn canolbwyntio ar ganfod meysydd allweddol o gryfder, y gellir adeiladu arnynt, a meysydd o risg posibl, lle gellid argymell camau pellach.

Bydd cwmpas y gwaith yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal pobl hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, gan ganolbwyntio’n fanylach ar y meysydd penodol isod:

  • sut y caiff safonau nyrsio proffesiynol eu diogelu a’u cyflenwi’n gyson, a sut mae’r Bwrdd Iechyd yn ymateb i ddiffygion wrth gyflawni’r safonau hyn;
  • y diwylliant gofal, gan ganolbwyntio’n benodol ar ofal cleifion hŷn yn y wardiau meddygol;
  • ymateb i gwynion, gan edrych yn benodol ar sut y caiff cwynion eu trin gan y Bwrdd Iechyd a sut y caiff gweithwyr proffesiynol eu dal yn atebol am ddiffygion gofal a ganfuwyd drwy ymchwilio i gwynion (gan gynnwys ymchwiliadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed); a
  • gweinyddu a chofnodi meddyginiaeth, gan edrych yn benodol ar sut y caiff meddyginiaethau eu rhoi i gleifion sydd â nam gwybyddol neu sy’n wynebu heriau eraill wrth lyncu meddyginiaeth.

Bydd yn canolbwyntio ar ddau ysbyty o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM: Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.

2. Methodoleg ac Amseru
Mae’r dull “deep dive” yn defnyddio methodoleg sydd wedi’i sefydlu a’i datblygu dros gyfnod o flynyddoedd gan DSDC. Gellir gweld Astudiaeth Achos “deep dive” yma http://www.dementia.stir.ac.uk/case-studies/04-change-deep-dive 

Mae’r dull yn edrych yn fwriadol ar faterion strategol ac ymarferol gyda’i gilydd. Fel arfer caiff ei gynnal yn ddwys dros gyfnod byr o amser. Yn rhannol mae’n dilyn profiad uniongyrchol y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’r bobl sy’n gofalu amdanynt drwy’r gwasanaethau a’r llwybrau, o’r adeg y cânt eu derbyn i gael gofal ymlaen. Mae’r fethodoleg yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â staff ar bob pwynt allweddol yn y broses hon, gan ganiatáu gweithio ar newidiadau pwysig gyda staff llinell flaen yn y fan a’r lle a datgloi newidiadau fydd â budd gweladwy mewn meysydd blaenoriaeth ar unwaith, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn y gwyddys ei fod yn gweithio. Yn ystod y gweithgaredd adolygu manwl, bydd meysydd penodol o ymarfer neu bolisi yn cael eu dynodi i fod yn rhan o’r ymarfer ‘edrych yn ôl’. Bydd hyn yn helpu i ganfod sut mae arferion wedi esblygu, a mannau lle cynghorir cael rhagor o newid er mwyn gwella safonau gofal.

Caiff yr asesiad ei gynnal o fis Rhagfyr 2013 i mewn i ddechrau 2014 a bydd yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • adolygiad o ddogfennau a data allweddol
  • cyfweliadau strwythuredig gyda rhanddeiliaid allweddol
  • ymweliadau sampl â darparwyr gwasanaeth a phartneriaid
Caiff yr asesiad ei gynnal gan ddau unigolyn a enwir sydd wedi arwain adolygiadau o’r fath yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf:

  • Yr Athro June Andrews, Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Prifysgol Stirling
  • Mark Butler, Cyfarwyddwr Datblygu (DSDC) a Chyfarwyddwr, The People Organisation Ltd
Bydd yr Athro Andrews a Mark Butler yn cael cymorth Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu DSDC, Shirley Law. Bydd cyngor cyd-destunol arbenigol ar GIG Cymru yn cael ei ddarparu gan gyswllt annibynnol enwebedig o Gymru i gynorthwyo’r adolygwyr o’r tu allan i’r Bwrdd Iechyd.