Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae Bil Addysg (Cymru) 2013 wedi’i osod heddiw, 1 Gorffennaf 2013.
Bydd y Bil yn cyflwyno system gofrestru newydd a fydd yn sicrhau mwy o gysondeb ac yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y gweithlu addysg ehangach i addysg pob dysgwr yng Nghymru.
Bydd y Bil yn diwygio trefn cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol mewn perthynas â dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA). Bydd yn darparu ar gyfer pontio gwell i ddysgwyr ag AAA o’r ysgol i addysg bellach drwy osod cyfrifoldeb am asesu anghenion dysgwyr, ac am sicrhau eu bod yn derbyn addysg ôl-16 arbenigol, ar yr awdurdod lleol.
Bydd y Bil hefyd yn darparu ar gyfer mwy o gysondeb yn nyddiadau tymhorau ysgolion a gynhelir yng Nghymru drwy newid y ffordd y cânt eu pennu.
Bydd y Bil yn ceisio deddfu yn y meysydd canlynol:
- Cyngor y Gweithlu Addysg – Cofrestru’r gweithlu addysg ehangach;
- Diwygio trefn cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig;
- Asesu anghenion addysg a hyfforddiant ôl-16 ac Addysg Bellach arbenigol;
- Dyddiadau tymhorau ysgolion;
- Penodi a chael gwared ar Brif Arolygydd EM a phenodi Arolygwyr EM dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2005.