Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Adnodd fel siop un stop ar gyfer adnoddau ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru. Bydd yn comisiynu adnoddau i gefnogi Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau newydd, a gyhoeddir ar yr un pryd yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Daeth Adnodd yn weithredol ar 1 Ebrill ac ers hynny mae wedi bod yn ymgynghori ag ymarferwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu model effeithiol ar gyfer comisiynu deunydd newydd a sicrhau ansawdd adnoddau.
Ochr yn ochr â hyn, mae Adnodd wedi bod yn gweithio i adeiladu'r cysylltiadau, y systemau a'r sylfeini angenrheidiol i'r cwmni weithredu'n effeithlon.
Yn dilyn ymarferiad recriwtio cystadleuol, rwy'n falch o gyhoeddi bod Emyr George wedi cael ei benodi yn Brif Swyddog Gweithredol Adnodd. Bydd cefndir a phrofiad Emyr, yn enwedig o fewn Cymwysterau Cymru, yn hanfodol wrth roi gweledigaeth Adnodd ar waith, mewn partneriaeth â Rhanddeiliaid.
Rwy'n hyderus y bydd Emyr yn darparu eiriolaeth gref i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer darparu deunyddiau addysgu a dysgu addysgol pwrpasol, o ansawdd uchel ac amserol. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau hygrededd y cwricwlwm, ac ymrwymiad angenrheidiol ymarferwyr i'w wireddu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn arloesol, uchelgeisiol a heriol ac felly mae'n gofyn am ddull hollol wahanol ac uchelgeisiol o ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol wrth iddo gael ei ymgorffori dros y blynyddoedd i ddod.
Edrychaf ymlaen at weithio gydag Emyr pan fydd yn dechrau yn y swydd ym mis Ionawr 2024.