Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae ein Rhaglen Cyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi bod wrth wraidd ein gwaith yn y maes hwn ers talwm, gan ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymunedau amrywiol a grwpiau allweddol drwy sefydliadau cynrychiadol ag arbenigedd priodol.
Dechreuodd y Rhaglen Cyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant bresennol ym mis Gorffennaf 2016 er mwyn cefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2016-20. Mae'n cyllido sefydliadau i ddarparu cymorth i unigolion a chymunedau ledled Cymru mewn perthynas â rhywedd, anabledd, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, hil a throseddau casineb.
Rwyf wedi cytuno y caiff y rhaglen olynol ei chynllunio ar y cyd â phartneriaid allanol er mwyn sicrhau y bydd modd iddi ddiwallu anghenion y bobl sy'n darparu cymorth yn ogystal â'r rheini sy'n cael cymorth ganddi orau, wrth helpu i gyflawni'r amcanion penodol a nodwyd yn y cynlluniau gweithredu sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag anabledd, rhywedd, hil a materion LHDTC+. Byddwn hefyd yn datblygu cynllun grantiau bach i ategu'r rhaglen newydd, a fydd yn darparu cyllid ar gyfer digwyddiadau penodol a gweithgareddau eraill sy'n hybu cydraddoldeb ledled Cymru. Rhoddir gwybod am natur benodol y cyllid hwn a'r hyn y bydd yn ei gefnogi yn nes ymlaen eleni, yn dilyn y broses o gynllunio ar y cyd.
Wrth i'r broses hon fynd rhagddi, ac i sicrhau bod pobl â nodweddion gwarchodedig yn parhau i gael cymorth drwy asiantaethau sy'n dibynnu ar y rhaglen hon, rwyf wedi cytuno ar y cyllid i'r sefydliadau canlynol ar gyfer 2022-2023:
- Anabledd Cymru
- Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
- Stonewall Cymru
- TGP Cymru (Cymorth i'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr)
Rwyf hefyd wedi cytuno i barhau i gyllido grantiau bach i sicrhau y bydd modd i sefydliadau llawr gwlad gynnal dathliadau, gwasanaethau coffau a mentrau i nodi digwyddiadau allweddol yn y calendr cydraddoldeb. Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau priodol megis Race Council Cymru ac Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i weinyddu'r grantiau hyn.
Byddwn yn rhannu manylion pellach am y rhaglen newydd cyn gynted â phosibl. Rwyf yn annog sefydliadau i ystyried sut y gallent weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni'r dull croestoriadol rydym am ei sicrhau, ac i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen sy'n bodloni'r amcanion sy'n gyffredin rhyngom.