Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi bod wrth wraidd ein gwaith yn y maes hwn ers tro byd, gan ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymunedau amrywiol a grwpiau allweddol drwy sefydliadau cynrychioliadol sydd ag arbenigedd priodol. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol fel hyn ac yn bwriadu parhau i wneud hynny.

Dechreuodd y rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant bresennol ym mis Gorffennaf 2016 i gefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2016-20. Mae'n ariannu saith sefydliad i roi cymorth i unigolion a chymunedau ledled Cymru mewn perthynas â rhyw, anabledd, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, hil a throseddau casineb. Roedd i fod i ddod i ben ar 30 Medi 2021.

Lansiwyd ymgynghoriad ar opsiynau i fynd i'r afael â phob math o anfantais a gwahaniaethu, ac i ddangos bod cydraddoldeb i bawb, ym mis Chwefror 2021. Cynhaliwyd dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a thrafodaethau â rhanddeiliaid, ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Bydd hyn yn llywio cyfeiriad rhaglen olynol i gefnogi'r Rhaglen Lywodraethu newydd, gan fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gael gwared ag anghydraddoldeb a mynd i'r afael â'r effeithiau negyddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig.

Bu cefnogaeth gref i lawer o'r cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghori. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i’r canlynol:

  • Tymor hwy i'r brif raglen, hyd at bum mlynedd, i ddarparu mwy o barhad o ran gwasanaeth, cadw adnoddau i gyflawni gweithgareddau a lleihau costau ac ansicrwydd sy'n gysylltiedig â chyllid tymor byr
  • Parhau â rhai gwasanaethau a ddarperir gan y rhaglen ar hyn o bryd, lle ceir tystiolaeth o effeithiolrwydd a gwerth am arian.
  • Alinio'r rhaglen newydd â Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, a chynlluniau gweithredu cysylltiedig ar rhyw, hil, cenedl noddfa, anabledd ac LGBTQ+, yn ogystal â'n rhaglen Cydlyniant Cymunedol.
  • Mwy o ffocws ar weithio mewn partneriaeth, ar y cyd ac yn rhyngsectorol, gan gynnwys sicrhau gwell darpariaeth i Gymru gyfan.

Nododd rhai ymatebwyr faterion yr oeddent yn credu eu bod yn haeddu mwy o gefnogaeth gan y rhaglen. Roedd y rhain yn cynnwys anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â thlodi; effaith Covid a Brexit; anghydraddoldeb gwledig; anghydraddoldeb ieithyddol a gwasanaethau cyfieithu. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion hyn ymhellach wrth i'r rhaglen newydd gael ei llunio.

Bydd y trefniadau ariannu newydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion tegwch a chydraddoldeb ac i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Rydym yn anelu at gyllid hirdymor ar gyfer y rhaglen hon a byddwn yn cadarnhau'r cyfnod cyn gynted â phosibl. Byddwn hefyd yn ystyried pa ddarpariaeth a allai fod ar gyfer cyfleoedd ariannu tymor byrrach ochr yn ochr â'r brif raglen. Mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn caniatáu digon o amser i gynllunio, comisiynu a gweithredu'r trefniadau newydd, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r Rhaglen Lywodraethu a Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ynghyd â'n cynlluniau gweithredu cysylltiedig. Rwyf felly wedi cytuno ar estyniad pellach o chwe mis i'r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant bresennol hyd at 31 Mawrth 2022. Bydd hyn yn rhoi parhad o ran cymorth i bobl tra bod y rhaglen newydd yn cael ei datblygu drwy'r sefydliadau a ariennir ar hyn o bryd.  Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn parhau hyd nes y bydd y rhaglen newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2022.

Bydd rhagor o fanylion am y rhaglen newydd ar gael cyn gynted â phosibl ac rwy'n annog sefydliadau i ystyried sut y gallent weithio mewn partneriaeth â'i gilydd i gyflawni'r ddarpariaeth ddaearyddol a'r dull rhyngadrannol rydym yn ei geisio. Rwy'n disgwyl i brosesau ymgeisio ffurfiol ddechrau erbyn mis Medi.