Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n cyhoeddi ein cynllun Adnewyddu a Diwygio, sy'n nodi sut y byddwn yn targedu buddsoddiad ychwanegol o £150m ym mlwyddyn ariannol 2021-22 i helpu dysgwyr ac ymarferwyr wrth i ni reoli ein hadferiad o Covid.

Mae'r cynllun Adnewyddu a Diwygio yn dwyn ynghyd ac yn adeiladu ar yr ymyriadau a'r mentrau llwyddiannus a ddefnyddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys cadw a chefnogi dros 1,800 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn a recriwtiwyd o dan y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

Bydd darparu capasiti, gallu a chymorth ychwanegol wedi'i dargedu i ddysgwyr yn parhau i fod yn rhan greiddiol o'n dull hirdymor o gefnogi dysgu, ynghyd â mentrau eraill i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. 

Byddwn yn darparu cymorth personol ar gyfer dysgu a lles i bob dysgwr, a phecynnau cymorth pwrpasol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Mae hynny'n cynnwys cefnogi datblygiad hanfodol yn y blynyddoedd cynnar a helpu dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen at gamau nesaf eu taith, a darparu'r sylfeini sy'n galluogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig i gyflawni eu potensial.

Mae'r cynllun hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad at les ac iechyd meddwl dysgwyr ac ymarferwyr; cefnogi dysgwyr i wneud y cynnydd sydd ei angen arnynt; a mynd i'r afael ag effeithiau addysgol anghydraddoldeb sydd wedi'u hamlygu gan y pandemig. Bydd yn cryfhau sylfeini dysgu wrth i ni symud ymlaen i'r camau nesaf o ran cenhadaeth ein cenedl.

Mae’r pandemig wedi ei gwneud yn amlwg iawn pa mor bwysig yw ein hysgolion, ein lleoliadau dysgu, ein colegau a’n prifysgolion i’n plant a’n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysgol wedi ymateb yn arwrol i'r heriau, gan ddangos hyblygrwydd, ymrwymiad a chadernid eithriadol. Rwyf am ddiolch iddynt am eu hymroddiad, eu harloesedd a’u hymateb cyflym.

Mae dysgwyr hefyd wedi gorfod addasu, gan ddysgu a gweithio mewn ffyrdd gwahanol ac rwy'n sicr am eu canmol nhw hefyd am fod yn barod i wneud hynny, ni waeth pa mor anodd y mae hynny wedi bod ar adegau.

Rwy’n benderfynol o adeiladu ar y pwyslais a roddwyd ar les a hyblygrwydd yn y system addysg dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i’r cwricwlwm newydd cyffrous gael ei gyflwyno. Mae'r system addysg wedi dangos gwydnwch a hyblygrwydd rhyfeddol, rhaid inni ddysgu o hynny.

Rwyf wedi siarad â llawer o athrawon sydd wedi bod yn defnyddio egwyddorion y cwricwlwm newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth gefnogi disgyblion ac mae’n bwysig peidio colli momentwm ar yr adeg dyngedfennol hon.

Rwyf wedi bod yn cyfarfod ac yn gwrando ar y proffesiwn ers dod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Er bod cefnogaeth enfawr i'r diwygiadau a gwerthfawrogiad o'r hyblygrwydd a roddwyd i ysgolion a cholegau yn ystod y pandemig, rwy’n gwybod bod pryderon hefyd ynghylch tarfu pellach ar ddysgwyr ac ymarferwyr, yn ogystal â phryderon ynghylch y pwysau sydd ar ysgolion, colegau a darparwyr dysgu eraill, yn enwedig yn y sector uwchradd.

Y cynllun heddiw yw'r cam cyntaf, sy’n gosod y fframwaith a'r cyllid sydd ar gael i'n galluogi i gydweithio â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr. 

Yn ddiweddarach y tymor hwn, byddwn hefyd yn:

  • amlinellu cynlluniau i greu mwy o le o fewn y system ar gyfer ymarferwyr
  • rhoi eglurder pellach i ysgolion a cholegau ynghylch tymor yr hydref
  • nodi sut y byddwn yn cefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys egluro disgwyliadau ac ystyried y negeseuon a glywais yn fy nhrafodaethau ag ysgolion a'r proffesiwn
  • cyhoeddi ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholi Addysgol – wedi'i llywio gan dystiolaeth ryngwladol o ansawdd uchel.

Hoffwn ddiolch hefyd i'n partneriaid ym maes addysg, gan gynnwys Undebau, Awdurdodau Lleol, Prifysgolion a'r system addysg ehangach am gydweithio â ni, ar adegau yn ymateb i ddigwyddiadau yn sydyn eithriadol. Byddwn yn parhau â'r dull cydweithredol hwn wrth i ni symud ymlaen at y cam nesaf o adnewyddu a diwygio.

Gellir gweld y cynllun yma: https://llyw.cymru/adnewyddu-diwygio-cefnogi-lles-chynnydd-dysgwyr