Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn sgil y dystiolaeth ddiweddaraf a chyhoeddiad y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, bydd gwasanaethau optometreg a deintyddol yn symud i gam nesaf y broses adfer o 22 Mehefin. Bydd hyn yn galluogi practisau optometreg a deintyddol i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau fel rhan o'u cynlluniau i ddychwelyd i fusnes fel arfer.

Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru er mwyn sicrhau bod practisau yn gallu cael gafael ar lefelau priodol o gyfarpar diogelu personol.

Gwasanaethau Optometreg

Ym mis Mai cafodd cynllun gweithredu ar gyfer dychwelyd i fusnes fel arfer ei roi i bractisau optometreg yng Nghymru. Er mwyn cefnogi'r broses o symud i Gam Oren y cynllun adfer, rhoddwyd canllawiau pellach er mwyn galluogi practisau i roi mesurau priodol ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ar waith i ddiogelu'r cyhoedd a'r gweithlu. Mae'r canllawiau yn cynnwys adnodd hunanasesu "dychwelyd i'r gwaith" i bractisau optometreg ei gwblhau a'i ddychwelyd i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru cyn iddynt agor.

Yn unol â'r cyhoeddiad heddiw ynghylch llacio'r cyfyngiadau symud, bydd practisau optometreg yn cwblhau'r adnodd hunanasesu ac yn symud i gam Melyn y cynllun adfer o ddydd Llun 22 Mehefin.  Efallai y bydd angen i rai practisau gael amser i baratoi ar gyfer ailagor, ac y byddant yn croesawu hynny, gan sicrhau bod ganddynt gyfarpar diogelu personol i ddechrau gweld cleifion y GIG, a chefnogwn y gofyniad hwnnw'n llawn.

Mae nifer cyfyngedig o bractisau optometreg, sy'n gysylltiedig â chlystyrau gofal sylfaenol, wedi aros ar agor er mwyn darparu gofal llygaid brys a hanfodol yn ystod Cam Coch darparu gwasanaethau. Drwy symud i Gam Melyn y cynllun adfer, gall y practisau hyn symud yn gyflym i ddechrau trin ystod ehangach o gyflyrau gofal llygaid.

Yn sgil y galw mawr am y gwasanaeth a'r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol a gweithdrefnau rheoli heintiau angenrheidiol, dim ond nifer cyfyngedig o gleifion y bydd modd eu gweld, a'r cleifion hynny o fewn y GIG sydd â'r angen clinigol mwyaf a gaiff flaenoriaeth.

Gwasanaethau Deintyddol

Rydym wedi bod yn glir ynghylch y ffaith bod angen i'r broses o ailddechrau darparu gwasanaethau deintyddol fod yn un graddol er mwyn diogelu staff deintyddol a chleifion gan fod COVID-19 yn dal i gael ei ledaenu yng Nghymru. Ein nod o hyd yw mynd ati i ailddechrau darparu gwasanaethau deintyddol hanfodol diogel, fesul cam, a hynny'n seiliedig ar risg.

Y dyddiad dangosol ar gyfer codi'r Rhybudd Coch ar gyfer gwasanaethau deintyddol oedd 1 Gorffennaf. Yn sgil y cyhoeddiad ynghylch llacio cyfyngiadau symud eraill heddiw, a gan wybod bod nifer o bractisau yn barod i ailgyflwyno mwy o driniaethau, cynigir codi'r Rhybudd Coch ar 22 Mehefin.

Mae'r rhan fwyaf o bractisau a byrddau iechyd yn dal i fod angen ac yn croesawu'r amser sydd ar gael cyn 1 Gorffennaf i baratoi, a chefnogwn y gofyniad hwnnw'n llawn. Fodd bynnag, dylai'r practisau sy'n barod i roi'r broses weithredu safonol a gyhoeddwyd ar waith ar 10 Mehefin, yn enwedig y rhai sydd â chyfarpar diogelu personol lefel uwch yn barod ac sy'n gallu rhoi'r holl fesurau eraill ar waith i ailgyflwyno gweithdrefnau cynhyrchu aerosol yn ddiogel, gysylltu â'u bwrdd iechyd a/neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru er mwyn cadarnhau hynny a darparu sicrwydd.

Mae rhai byrddau iechyd wrthi'n nodi practisau i'w dynodi'n hybiau gweithdrefnau cynhyrchu aerosol nad ydynt yn rhai COVID-19 er mwyn ategu gwaith canolfannau deintyddol brys. Drwy godi'r Rhybudd Coch gall y gwaith hwnnw fynd rhagddo ym mhob bwrdd iechyd.