Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dim ond os oes gennym athrawon cymwys o safon uchel y gallwn wireddu cenhadaeth ein cenedl o ran addysg, sef codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol.

Mae fy nisgwyliadau innau o ran diwygio hyfforddiant athrawon yn hollol glir. Rwyf hefyd yn disgwyl i'n darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) gyrraedd safon uchel iawn. Prif ddiben y gwaith diwygio hwn yw gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth, cyflwyno dull newydd o gyflawni addysg athrawon, a sicrhau bod pob rhaglen yn bodloni'r dyhead am AGA yng Nghymru sy’n arwain y ffordd ar y llwyfan byd eang.

Ar ein taith hyd yn hyn, rydym wedi cydweithio â rhanddeiliaid fel rhan o'r ymgyrch i greu consensws ac ymrwymiad i wella'r ddarpariaeth. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn cyfnod byr. Dyma rai o’r prif bethau:
  • Datblygu meini prawf achredu AGA, ymgynghori arnynt, a'u cyhoeddi
  • Cynnal cyfres wythnos o hyd o weithdai, a drefnwyd gan OECD, a oedd yn cynnwys arbenigwyr byd-eang sy'n flaenllaw ym maes AGA
  • Rhoi grym i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu rhaglenni AGA unigol drwy sefydlu'r Bwrdd Achredu Addysg Athrawon 
  • Cwblhau penodiadau cyhoeddus i swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd: pobl uchel eu parch a chanddynt hygrededd, sef yr Athro Furlong, Dr Áine Lawlor a'r Athro Olwen Mcnamara
  • Wedi gweld Partneriaethau AGA yn cyflwyno eu Rhaglenni AGA newydd, sydd wedi eu dilysu yn academaidd, i'r Bwrdd fis Rhagfyr.
Roeddwn yn falch hefyd o gael clywed gan yr Athro Furlong a chael canlyniadau trafodaethau Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg. Rwyf wedi cael fy sicrhau bod y broses achredu yn drwyadl iawn.

Trwy sefydlu'r Bwrdd,  rydym wedi rhoi grym i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu rhaglenni AGA unigol. Golyga hyn mai penderfyniad y proffesiwn addysgu ac arbenigwyr, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yw penderfynu a yw rhaglenni AGA yn ddigon heriol, a oes iddynt ddigon o hygrededd, ac a ydynt yn broffesiynol briodol. Yn fy marn i, dyma fel y dylai hi fod.

Dyma raglenni newydd AGA achrededig Cymru:

Cynradd – Israddedig
  • CaBan BA Cynradd
  • Partneriaeth Caerdydd BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC
  • Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC
Cynradd – Ôlraddedig
  • Partneriaeth AGA Aberystwyth TAR
  • CaBan TAR Cynradd
  • Partneriaeth Caerdydd TAR: Cynradd
  • Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol TAR gyda SAC
Uwchradd - Olraddedig
  • Partneriaeth AGA Aberystwyth TAR
  • CaBan TAR Uwchradd
  • Partneriaeth Caerdydd TAR: Uwchradd
  • Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol TAR gyda QTS
Mae CaBan, Partneriaeth Caerdydd, Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol, Partneriaeth AGA Aberystwyth  wedi profi i'r Bwrdd bod eu rhaglenni achredu AGA yn rhan o'r newid mawr y cyfeirir ato yn adroddiad yr Athro Furlong, sef ‘Addysgu Athrawon Yfory’; y ddarpariaeth o ansawdd uchel sy'n denu'r bobl iawn i'r proffesiwn – hynny yw, pobl sydd â'r sgiliau cywir, y cymwysterau cywir a'r ddawn i addysgu.

Mae heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith hon a dylai pawb sy'n ymwneud â'r broses fod yn falch tu hwnt o'r llwyddiant mawr hwn

http://www.ewc.wales/site/index.php/cy/achredu-aga/darparwyr-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru-o-2019.html