Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm newydd heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol a gefnogir yn dda. Mae gan y systemau addysg sy’n perfformio orau yn y byd addysgwyr a staff cymorth egnïol a brwdfrydig sy'n dysgu'n barhaus. Dyna rydym ni oll am ei weld yng Nghymru.

Dim ond drwy gael athrawon cymwys, athrawon o safon uchel, y gallwn gyflawni cenhadaeth ein cenedl o ran addysg - sef codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder ymysg y cyhoedd.

I wireddu hyn, mae angen addysg athrawon cynhwysol a rhagorol.

Yn 2015, cyhoeddodd yr Athro Furlong ei adroddiad ‘Addysgu Athrawon Yfory’. Nododd yr adroddiad hwnnw nad oedd yr Addysg Gychwynnol Athrawon oedd ar gael yng Nghymru yn gallu datblygu'r athrawon sydd eu hangen arnom, nawr ac yn y dyfodol.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wella'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddyn nhw gaffael y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen arnyn nhw ac ar ein heconomi. Mae safon uchel yn hollbwysig inni: yn ‘Cenhadaeth Ein Cenedl’, a gyhoeddwyd y llynedd, gwnaethom ymrwymiad clir i ddenu mwy o raddedigion o safon uchel i faes addysg, a'u cadw.

Rwy'n rhoi pwys mawr ar gyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae sicrhau digon o athrawon cymwys, athrawon da, yn sail i'n holl ddiwygiadau ym maes addysg.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, megis y Bwrdd Cynghori ar Recriwtio a Chadw Athrawon, y consortia rhanbarthol ac ymgynghorwyr arbenigol i ddatblygu a mireinio ein cynigion.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:

  • Cyhoeddi meini prawf achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • Sefydlu Bwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg, dan Gadeiryddiaeth yr Athro Furlong, a fydd yn caniatáu i'r proffesiwn osod ei ofynion mynediad ei hun; a
  • Gwahodd Partneriaethau AGA i gyflwyno'u Rhaglenni AGA newydd i'r Bwrdd ym mis Rhagfyr.

Rwy'n siŵr y bydd y broses achredu yn drylwyr, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch y Bwrdd - maent wedi cyflawni llawer mewn ychydig o amser.

Rydym wedi gosod safonau uchel ar gyfer y Rhaglenni AGA newydd drwy ein meini prawf achredu. Mae'r Bwrdd wedi ystyried a yw'r rhaglenni'n ddigon heriol a chredadwy ac a ydynt yn briodol yn broffesiynol, ac mae wedi penderfynu ar hynny. Dyma'r ffordd orau i fynd ati, does dim dwywaith. Dim ond y rhaglenni gorau oll sy'n ddigon da i baratoi athrawon y dyfodol. Bydd y Bwrdd hefyd yn craffu ar strategaethau recriwtio'r Partneriaethau AGA ar gyfer llenwi’r lleoedd sydd wedi’u dyrannu iddynt, a chyflawni eu targedau gydag ymgeiswyr galluog o safon.

Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym, ac rydym ar y trywydd cywir i ddarparu'r rhaglenni cyntaf i fyfyrwyr ym mis Medi 2019. Yn fuan, ym mis Mehefin, caiff Partneriaethau AGA wybod gan Gyngor y Gweithlu Addysg am benderfyniadau a niferoedd dangosol; yna, caiff y niferoedd eu cadarnhau ym mis Medi eleni.

Bydd Estyn yn parhau i fonitro'r ddarpariaeth addysg gychwynnol yn y canolfannau presennol. Bydd hyn yn sicrhau ansawdd y ‘rhaglenni etifeddol’ i'r myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglenni hyn ar ôl mis Medi 2019.

Mae'r gwaith sylfaenol o ddiwygio AGA yng Nghymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn broses gydweithredol. Rydym wedi cydweithio â darparwyr arweiniol, sy'n cynnwys Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Warwick a Phrifysgol Sheffield Hallam. Rydym hefyd wedi cynnal cyfres wythnos o hyd o weithdai, a drefnwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac a oedd yn cynnwys arbenigwyr byd-eang sy'n flaenllaw ym maes addysg gychwynnol athrawon.

Yn sgil y cynnydd cadarn a wnaed eisoes, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu llwybrau amgen i addysgu, llwybrau sydd:

  • yn fanwl ymarferol ac yn her ddeallusol;
  • yn ehangu cyfranogiad a chynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn;
  • yn darparu llwybrau gyrfaoedd i helpu'r rhai sy'n newid gyrfa;
  • yn mynd i'r afael â meysydd lle mae prinder, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg; a
  • yn rhoi hyblygrwydd i hyfforddeion cynradd ac ysgolion.

I'n helpu i gyflawni'r amcanion hyn, rydym yn cynnig datblygiad arloesol ym maes AGA - cwrs TAR newydd, rhan-amser wedi ei leoli mewn ysgolion sy'n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion. Cwrs a fydd yn cynnwys nifer o leoliadau gwaith.

Er mwyn denu pobl sydd â'r arbenigedd a'r wybodaeth i gyfoethogi ein system addysg, mae'n rhaid inni dynnu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag mynd i'r proffesiwn. Rwy'n credu y bydd y llwybr newydd hwn yn help inni wneud hynny. Bydd y cwrs TAR newydd, rhan-amser, yn cyflwyno'r cymhwyster i fyfyrwyr trwy gyfrwng model dysgu cyfunol o safon uchel, a fydd yn sicrhau nad yw ardal leol y myfyriwr yn broblem. Bydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr rhan-amser fanteisio ar y cyfleoedd a roddir gan y trefniadau cyllid myfyrwyr newydd.

Bydd Llwybr yn Seiliedig ar Gyflogaeth yn golygu y gallai athro dan hyfforddiant gael ei gyflogi mewn ysgol o'r cychwyn cyntaf. Bydd hefyd yn galluogi i'r consortia rhanbarthol fynd i'r afael â phrinder mewn ysgolion fesul rhanbarth.

Byddwn yn edrych ar ddarparwr Addysg Uwch, neu bartneriaeth o ddarparwyr, i gyflwyno'r cynigion hyn. Bydd hyn yn golygu cydweithio â'r consortia ac ysgolion ym mhob rhanbarth, a thrwy hynny sicrhau'r buddiannau o weithio i raddfa.

Rhaid i'r llwybr newydd hwn fod yn hyblyg ac yn ystwyth, a rhaid iddo gynnwys cymorth a datblygiad proffesiynol effeithiol, a bodloni'r un gofynion safon uchel a'r meini prawf achredu newydd.

Drwy gyfoethogi’r proffesiwn, byddwn yn cyfoethogi profiad dysgu ein plant: bydd hyblygrwydd y llwybr rhan-amser newydd hwn yn rhoi cyfleoedd i bobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yng ngweithlu addysgu Cymru.

Bydd yn cyfoethogi’r proffesiwn drwy gynyddu amrywiaeth a chaniatáu i bobl sydd â phrofiad mewn meysydd eraill i gychwyn addysgu.

Rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ac rydym yn trafod â'r rhai sy'n debygol o gynnig i gyflwyno'r rhaglen. Ein bwriad yw cychwyn unrhyw gontract newydd ym mis Chwefror 2019, yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20.