Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 21 Rhagfyr 2012 fe wnaeth fy rhagflaenydd ddatgan mewn datganiad ysgrifenedig, yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar gynigion deddfwriaethol i gyflwyno cynllun cofrestru a monitro gorfodol i’r rhai sy’n dewis addysgu eu plant yn y cartref, na fyddai Llywodraeth Cymru yn deddfu yn rhan o’r Bil Addysg (Cymru). Nododd yn ei ddatganiad y byddai’n rhoi diweddariad maes o law. Rwyf felly yn rhoi i chi nawr yr wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad yr ymgynghoriad a fy mwriadau wrth fynd yn ein blaen.
Amlygodd yr ymgynghoriad wahaniaeth barn clir. Roedd y mwyafrif o’r rhieni oedd yn addysgu yn y cartref, plant a phobl ifanc oedd yn derbyn addysg yn y cartref a chyrff oedd yn cynrychioli teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn gwrthwynebu cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth yn gryf. Fodd bynnag roedd y mwyafrif o awdurdodau lleol a chyrff â chyfrifoldeb am blant o’r farn fod deddfwriaeth yn gwbl hanfodol i sicrhau bod plant sy’n derbyn addysg yn y cartref yn cael addysg addas.
Ar ôl ystyried yn ofalus yr ymatebion i’r ymgynghoriad oddi wrth yr holl randdeiliaid rwyf wedi penderfynu na fydd Llywodraeth Cymru'n deddfu ar gyflwyno cynllun cofrestru a monitro gorfodol yn ystod tymor cyfredol y Cynulliad. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion, fodd bynnag, ddatblygu canllawiau anstatudol ar addysgu yn y cartref erbyn mis Mai 2015 i gynorthwyo awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref a helpu i greu trefn fwy cyson i awdurdodau lleol ymgysylltu â’u cymunedau addysgu yn y cartref. Caiff y canllawiau eu datblygu mewn ymgynghoriad ag Awdurdodau Lleol a’r gymuned addysg ddewisol yn y cartref er mwyn rhoi cyfle iddynt gydweithio i adeiladu consensws ac ymddiriedaeth. Bydd y canllawiau’n cynorthwyo Awdurdodau Lleol i ddatblygu lefel o wybodaeth ac arbenigedd ar addysg yn y cartref a amlygwyd fel maes i’w ddatblygu ymhellach yn ystod yr ymgynghoriad.
Roedd yr ymgynghoriad yn pwysleisio bod arferion da ac ymgysylltu da yn bodoli rhwng rhai Awdurdodau Lleol a’r gymuned addysgu yn y cartref. Byddwn yn tynnu ar yr arferion da hyn wrth ddatblygu’r canllawiau.
Bydd datblygu canllawiau anstatudol yn ein galluogi ni i roi cynnig ar wahanol ddulliau a dod i farn ynglŷn â pha un fydd yn cyflawni’r canlyniadau dysgu gorau i ddysgwyr sy’n derbyn addysg yn y cartref.
Heddiw rwyf i wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac mae hwn i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.