Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Byddai Brexit heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar Gymru – mae’r neges honno wedi’i chyfleu’n gyson i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac fe’i hailadroddais yn fy nghyfarfod gyda’r Prif Weinidog ar 30 Gorffennaf.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi anfon llythyr at Gina Miller ynglŷn â’r posibilrwydd o addoedi Senedd y DU. Ynddo, mae’r Prif Weinidog yn parhau i wrthod diystyru cymryd camau anghyfansoddiadol i sicrhau Brexit heb gytundeb. Mae’n destun pryder mawr i Lywodraeth Cymru y gallai’r Prif Weinidog, o hyd, fod yn ystyried addoedi Senedd y DU er mwyn ceisio cyfyngu ar unrhyw ddadlau a chraffu, a nacáu cyfle i’r Senedd fynegi ei hewyllys - a hynny ar adeg fwyaf tyngedfennol ein hoes. Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn galw ar y Prif Weinidog i gael gwared ag unrhyw amheuaeth am y mater a chadarnhau na fydd yn cymryd camau i addoedi’r Senedd yn ystod y cyfnod hyd at 31 Hydref 2019.
Hyd nes y ceir y cadarnhad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn y datblygiadau’n ofalus. Bydd un o gyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn cael ei anfon i fonitro gwrandawiadau nesaf yr her gyfreithiol sydd wedi’i dwyn gerbron y Llys Sesiwn yn yr Alban gan Joanna Cherry AS a 74 aelod arall o Senedd y DU, ar y cyd â’r Good Law Project. Yn y cyfamser, hefyd, comisiynwyd cyngor cyfreithiol penodol ac arbenigol i archwilio’r opsiynau posibl a allai fod ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu buddiannau Cymru pe bai Llywodraeth y DU yn methu â gwneud hynny.