Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Ers y refferendwm y llynedd ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi bod yn adolygu sut rydym yn cefnogi economi Cymru, gan gynnwys edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ein gwariant caffael blynyddol sy'n werth £6 biliwn i sbarduno twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu mewn cyfnod o bwysau nas gwelwyd ei debyg o'r blaen. Mae hyn yn cynnwys pwysau ariannol o ganlyniad i fesurau cyni parhaus Llywodraeth y DU. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd lle mae cystadleuaeth frwd rhwng sefydliadau caffael eraill y sector cyhoeddus o bob cwr o'r DU sy'n cystadlu am arian sector cyhoeddus Cymru er nad ydynt yn rhannu ein gwerthoedd.
Rydym wedi cymryd camau sylweddol i newid y drefn gaffael yng Nghymru ac i wella safonau ar hyd y gadwyn gyflenwi. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyflwyno'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yng Nghymru i wella llesiant gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac ar draws y byd. Rydym hefyd wedi sefydlu Bwrdd Gwaith Teg. Tasg gyntaf y Bwrdd hwn fydd archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gwariant cyhoeddus ac arferion caffael yng Nghymru yn arwain at ganlyniadau gwaith teg.
Heddiw, rwy'n amlinellu cynlluniau i addasu rôl Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru a sefydliad Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith ar y cyd â phartneriaid Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus.
Ers ei sefydlu yn 2013, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cyfrannu'n sylweddol at greu proffesiwn a threfn gaffael effeithiol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae wedi llunio 56 fframwaith, ac mae 662 o gyflenwyr wedi cael lle ar y fframweithiau hynny, gyda bron 40% ohonynt yn fusnesau bach a chanolig o Gymru. Mae cael dulliau gweithredu cyson dan ofal y Gwasanaeth wedi ei gwneud yn haws i gyflenwyr llai fanteisio ar gyfleoedd i ennill contract. Caiff bron £100m ei wario ar gyflenwyr o Gymru drwy fframweithiau'r Gwasanaeth.
Mae Gwerth Cymru hefyd wedi ymestyn ei gapasiti a'i allu. Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru, a ddatblygwyd gan Gwerth Cymru, wedi helpu i sicrhau buddsoddiad pellach yn economi Cymru. Mae ei bolisïau caffael arloesol wedi arwain at gynnydd yng nghyfran y gwariant caffael cyhoeddus a enillwyd gan fusnesau o Gymru, a hynny o 34% i 50%.
Bydd sawl her yn wynebu Cymru wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ond bydd yn arwain at gyfleoedd hefyd – yn arbennig felly o ran caffael. Bydd addasu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru yn ein galluogi i fanteisio ar unrhyw newidiadau i reolau caffael ar ôl inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Y cam nesaf fydd datblygu cynllun clir ar gyfer gwariant caffael dros y blynyddoedd nesaf yng Nghymru fel y gellir defnyddio buddsoddiadau caffael i ddatblygu'r amodau cywir i gefnogi swyddi a thwf cynaliadwy, arferion cyflogaeth moesegol, a gwerth cymdeithasol, yn ogystal â helpu i wella gwydnwch busnesau lleol a'u cymunedau. Heblaw hynny, bydd y cynllun hefyd yn helpu i sicrhau y bydd y budd economaidd sy'n deillio o'n gwariant caffael yn y sector cyhoeddus yn aros yng Nghymru.
Byddaf yn cydweithio ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i gryfhau ein cefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghymru fel eu bod yn gallu manteisio i'r eithaf ar eu cyfran o wariant caffael cyhoeddus Cymru. Byddwn hefyd yn ceisio gwella ein gweithdrefnau fel bod rhagor o Fusnesau Bach a Chanolig Cymru yn gallu ennill contractau (haen un).
Yn ogystal â hyn, byddwn yn gweithio gyda busnesau i ystyried pob opsiwn posibl o ran datblygu cadwyni cyflenwi lleol ac i lenwi unrhyw fylchau cyflenwi ledled y wlad, fel bod busnesau Cymru mewn lle da i gystadlu a gwneud cais am gontractau'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod buddsoddiadau mewn seilwaith yn cyd-fynd â'n rhaglenni cyllid datblygu rhanbarthol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ac yn hybu twf economaidd a ffyniant cynhwysol ledled Cymru.
Byddaf yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn yn gyson gydag Aelodau'r Cynulliad.