Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau’r Cynulliad am wybod fy mod heddiw wedi gwneud newidiadau i fy nhîm Gweinidogion.  Rwyf wedi ad-drefnu rhai portffolios er mwyn tanlinellu pwyslais y Llywodraeth ar gyflawni ac er mwyn ymateb i flaenoriaethau cyfnewidiol fel y pwysau cynyddol ar incwm teuluoedd.  Rwy’n disgwyl i restr fanwl o gyfrifoldebau diwygiedig y Gweinidogion gael ei chyhoeddi dros yr wythnos nesaf.

Bydd Mark Drakeford yn ymuno â’r Cabinet fel Gweinidog Iechyd gyda Gwenda Thomas yn parhau fel Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.  Bydd y cyfrifoldeb am Blant a Theuluoedd yn symud i bortffolio newydd o dan Huw Lewis fel Gweinidog Cymunedau a Trechu Tlodi – bydd y portffolio yn cynnwys y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, Cymunedau’n Gyntaf, Cydraddoldeb, Plant, Diwygio Lles a’r Sector Wirfoddol yn ogystal â’r cyfrifoldeb am Ddatblygu Cynaliadwy ar draws y sefydliad.

Mae Edwina Hart yn cadw ei briff ond yn ychwanegu trafnidiaeth ato, fel Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.  Bydd Leighton Andrews yn parhau fel y  Gweinidog Addysg.  Jeff Cuthbert fydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Alun Davies fydd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd gan gyfuno ei gyfrifoldebau blaenorol am Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd â’r rheini oedd yn perthyn i bortffolio’r Amgylchedd, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, atal llifogydd a sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.  John Griffiths fydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon newydd a fydd hefyd yn gyfrifol am Barciau Cenedlaethol, Cerdded a Beicio (gan gynnwys y Bil Teithio Llesol).  Bydd Cynllunio yn rhan o’r portffolio Tai ac Adfywio o dan Carl Sargeant.

Lesley Griffiths yw’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth newydd.  Bydd Jane Hutt yn cadw ei chyfrifoldebau fel y Gweinidog Cyllid ond bydd hefyd yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau am Raglenni Ewropeaidd )WEFO) a datblygu swyddogaeth Trysorlys Cymru.