Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016



Yn fy natganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Gorffennaf 2012 amlinellais y camau a oedd yn cael eu cymryd i ad-drefnu addysg uwch yn y De-ddwyrain. Cyhoeddais gyfnod o ymgynghori statudol ar y cynnig i ddiddymu corfforaeth addysg uwch Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a chorfforaeth addysg uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd er mwyn creu prifysgol fetropolitan newydd i wasanaethu’r De-ddwyrain i gyd drwy uno’r sefydliadau hynny â Phrifysgol Morgannwg.  

Ysgrifennais i’r sefydliadau hynny ar 6 Awst gyda gan roi manylion yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer yr opsiwn a ffefrir gan y Llywodraeth, sef uno’r tri sefydliad. Amlinellais hefyd opsiwn llai buddiol – ond a fyddai’n dal i gynnig manteision addysgol sylweddol – sef uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd yn unig.

Mae Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd yn parhau i symud yn gyflym tuag at uno cyn diwedd 2013. Rwy’n croesawu eu hymrwymiad i wella’r ddarpariaeth addysg uwch yn yr ardal, a byddaf yn ystyried yn ofalus eu hymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad statudol presennol maes o law.  

Fodd bynnag, mae’r tabl cynghrair prifysgolion a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn y Sunday Times yn peri pryder imi, gan ei fod yn dangos bod Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi syrthio 17 safle o gymharu â 2011 i fod yn 109fed o’r 122 o sefydliadau a restrir. Yn anffodus, canlyniadau siomedig a gafodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol o ran boddhad myfyrwyr hefyd, ac mae cyflogau ei graddedigion ymhlith yr isaf yn y DU.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol sylweddol i ategu’r Achos Amlinellol Strategol. Fel yr atgoffais y Cynulliad ym mis Gorffennaf, mae ad-drefnu addysg uwch wedi bod yn amcan i gyfres o lywodraethau Cymru. Roedd yn amcan yn 2001 pan gyhoeddwyd 'Cymru: Y Wlad Sy’n Dysgu’, ac erbyn hyn mae gyda ni’r strategaeth addysg uwch 'Er Mwyn Ein Dyfodol’. Mae holl bleidiau’r Cynulliad wedi bod yn gefnogol i’r polisi. Mae wedi bod yn nodwedd amlwg o strategaeth gorfforaethol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddais adroddiad CCAUC ar strwythur addysg uwch Cymru yn y dyfodol. Derbyniais ryw 400 o ymatebion ysgrifenedig gan randdeiliaid, gan gynnwys Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Er fy mod yn parhau i fod o’r farn bod gan bawb perthnasol yr ydym yn ymgynghori â nhw ddigon o wybodaeth i ymateb yn ystyrlon i’r broses ymgynghori, er mwyn bod yn deg rwyf wedi gofyn i swyddogion ddarparu’r wybodaeth y gwnaed cais amdani i’r holl  grwpiau perthnasol cyn gynted â phosibl. Rwy’n cynnig hefyd fod cyfnod ymgynghori pellach o 12 wythnos yn dechrau o’r dyddiad y darperir yr wybodaeth honno.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddatblygu sector addysg uwch yng Nghymru ar sail nifer lai o brifysgolion cryfach. Edrychwn ymlaen at y dystiolaeth bellach a ddaw i law yn sgil yr ymgynghoriad.