Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 6 Tachwedd 2012, gwnaethpwyd Datganiad Llafar gennyf i’r Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu’r datblygiadau gan Brifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg o ran eu gweithgareddau cyn integreiddio.  Gwnaeth Cadeiryddion y ddau sefydliad y sefyllfa’n glir y byddai’n well ganddynt uno o fis Ebrill eleni.  

Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi llofnodi Gorchymyn Diddymu ar gyfer Corfforaeth Addysg Uwch Casnewydd.  Cyflwynwyd y Gorchymyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Mawrth.  Yn amodol ar gwblhau’r prosesau statudol arferol, daw y Gorchymyn i rym ar 11 Ebrill 2013.  Bydd yn diddymu Corfforaeth Addysg Uwch Casnewydd, Prifysgol Cymru, ac yn trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau y sefydliad hwnnw i Brifysgol Morgannwg.  Wedi uno, gelwir y sefydliad newydd yn Brifysgol De Cymru.  

Mae fy mhenderfyniad i lunio’r Gorchymyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda’r sefydliadau dan sylw, a gyda rhanddeiliaid eraill.  Wedi ystyried achos busnes y sefydliad ar gyfer yr uno, yn ogystal â’r materion a godwyd gan randdeiliaid, a phob gwybodaeth berthnasol arall sydd ar gael, rwy’n credu bod y penderfyniad i ddiddymu Casnewydd ac uno â Morgannwg y penderfyniad iawn.  

Er mwyn sicrhau bod y broses o drosglwyddo i’r sefydliad newydd yn un esmwyth, rydym yn sicrhau, drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gyllid ychwanegol o £24.8 miliwn dros y dair blynedd nesaf.  Mae creu’r sefydliad newydd yn llwyddiant sylweddol ac yn gam mawr tuag at fodloni ein hymrwymiad i sefydlu nifer llai o brifysgolion cryfach yng Nghymru.  Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Brifysgol De Cymru.