Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae ymateb brys o ran iechyd cyhoeddus wedi cael ei gyflwyno yn dilyn gwybodaeth am naw achos o’r frech goch - dau ohonynt wedi’u cadarnhau mewn labordy. Mae’r achosion yn gysylltiedig a Ysgol Cwmtawe yng Nghastell-nedd Port Talbot. Trefnodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Iechyd Cyhoeddus Cymru sesiynau brechu MMR yn yr ysgol i blant ac athrawon ddydd Mawrth 8 Hydref er mwyn lleihau’r perygl o achosion pellach. Yn ôl yr adborth cychwynnol o’r sesiynau hyn - o’r 141 o blant y nodwyd eu bod mewn perygl o gael y frech goch, mae 28 ohonynt wedi cael eu himiwneiddio erbyn hyn a 67 wedi cael eu himiwneiddio yn rhywle arall. Hefyd, cafodd 27 o athrawon eu himiwneiddio. Roedd y gweddill naill ai’n absennol, yn mynd i weld eu meddyg teulu i gael eu himiwneiddio neu wedi gwrthod cael eu himiwneiddio.

Rwy’n diolchgar iawn i staff Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Iechyd Cyhoeddus Cymru am drefnu ymateb mor gyflym i’r nifer fechan hon o achosion ac am weithio mor galed dros gyfnod byr i drefnu’r sesiynau hyn yn yr ysgol. Rhaid i ni hefyd gydnabod cymorth gwerthfawr yr ysgol a’r awdurdod addysg, a’i gwnaeth yn bosibl i roi’r ymateb ar waith.  

Rydym yn parhau i annog y rhieni hynny sydd heb roi caniatâd i’w plant gael eu himiwneiddio fynd ati i ofyn am y brechlyn. Os ydynt yn dymuno, gall plant hŷn a phobl ifanc roi caniatâd eu hunain i gael eu brechu. Yn ogystal â’r effeithiau amlwg ar eu hiechyd nhw eu hunain, mae’r unigolion sydd heb eu brechu yn achosi mwy o risg i iechyd pobl eraill. Yn fwy cyffredinol, pan geir achosion y gellid bod wedi eu hosgoi, mae hynny’n golygu bod rhaid tynnu gwasanaethau oddi wrth ddyletswyddau pwysig eraill. Mae’r dyletswyddau hynny wedyn yn gorfod aros tra bydd ymateb cyflym yn cael ei drefnu.