Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae Ffliw Adar Pathogenig Iawn, a adwaenir yn fwy cyffredin fel ‘ffliw adar’, yn achosi marwolaethau sylweddol mewn nythfeydd o adar môr yn yr Alban a Lloegr ar hyn o bryd. Mae’r marwolaethau torfol o sgiwennod mawr a huganod ar draws nythfeydd yn yr Alban yn peri pryder. Mae hyn wedi lledaenu i lawr arfordir dwyreiniol y DU gan achosi nifer mawr o farwolaethau mewn nythfeydd amrywiol o fôr-wenoliaid a rhywogaethau eraill.
Mae gan Gymru nythfeydd o adar môr sy’n bwysig yn rhyngwladol ac yn genedlaethol. Er enghraifft, ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn Sir Benfro, mae’r nythfa fwyaf o balod Manaw yn y byd, ac ar Ynys Grassholm mae’r nythfa huganod drydedd fwyaf yn y byd, yn ogystal â nythfeydd mawr o adar môr niferus megis carfilod a gwylanod. Yng Ngogledd Cymru mae nythfeydd o lawer o rywogaethau o fôr-wenoliaid, sy’n bwysig yn rhyngwladol. Nid yw marwolaethau torfol wedi effeithio ar nythfeydd yng Nghymru hyd yn hyn ond, oherwydd ein bod yn profi diwedd tymor y ffliw adar, mae’r risg y gallai’r clefyd hwn ddigwydd mewn nythfeydd o adar môr yng Nghymru yn parhau.
Mae system gwyliadwriaeth adar gwyllt yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi nodi tri achos o ffliw adar ar Ynys Môn ac yng Ngheredigion, ac mae pedwar achos arall wedi cael prawf positif ar Ynys Grassholm. Mae arsylwadau pellach o adar marw neu sy'n marw wedi'u hadrodd ar Grassholm, ond amcangyfrifir bod niferoedd yn parhau i fod yn gymharol fach ac mae'n ymddangos eu bod mewn ardaloedd ynysig o'r nythfeydd.
Mewn ymateb i'r profion positif o ffliw adar ar Ynys Grassholm, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi atal holl weithrediadau modrwyo ar adar môr a chofnodi nythod adar môr yng Nghymru, a hynny'n effeithiol o 5ed Awst nes y clywir yn wahanol. Mae'r gwaharddiad yn ymestyn i fodrwyo a chofnodi nythod adar nad ydyn yn adar môr mewn nythfeydd adar môr. Yn anffodus, mae’r tebygolrwydd y gallai ffliw adar achosi marwolaethau torfol tebyg yng Nghymru yn parhau. Mae’n debygol hefyd y gallai achosi marwolaethau torfol ymhlith poblogaethau o adar hela ac adar hirgoes yn ein haberoedd rhyngwladol bwysig yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
O gydnabod y risgiau i nythfeydd o adar môr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio’n agos â llywodraethau eraill y DU, gan gynnwys APHA, a rhanddeiliaid hanfodol bwysig fel y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, er mwyn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn ymateb i’r bygythiad y mae Ffliw Adar Pathogenig Iawn yn ei beri i’n poblogaethau o adar môr. Mae natur fudol ac ardaloedd crwydro posibl ein hadar môr yn golygu bod cydweithio a gwaith monitro effeithiol yn hanfodol bwysig i’n gallu i olrhain a deall i ba raddau mae’r feirws yn lledaenu.
Heddiw, 31 Awst, mae Llywodraeth Cymru, law yn llaw â Defra, yn cyhoeddi 'Strategaeth Lliniaru ar gyfer Ffliw Adar mewn Adar Gwyllt yng Nghymru a Lloegr'. Mae'r Strategaeth yn nodi canllawiau ar bolisïau a dulliau presennol ledled Cymru a Lloegr, a bydd yn cefnogi rhanddeiliaid i ddeall rhain, drwy ddarparu senarios clir sy'n gysylltiedig ag adar gwyllt. Bydd hyn yn galluogi elusennau cadwraeth a rheolwyr tir i ymateb yn effeithiol a chyson i ffliw adar mewn adar gwyllt.
Fel rhan o’r ymdrech cydgysylltiedig hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyngor i’r cyhoedd ynghylch beth i’w wneud os ydynt yn dod o hyd i unrhyw adar môr sydd wedi marw (https://llyw.cymru/rhoi-gwybod-am-adar-marw-au-gwaredu).
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad yr haf er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddwn yn falch o wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd pe bai’r aelodau’n dymuno imi wneud hynny.