Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu’r Aelodau ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o ran cynhyrchion cig eidion sydd wedi’u halogi. Daeth y mater hwn i sylw Llywodraeth Cymru gyntaf ar 15 Ionawr eleni. Daeth yn glir o’r dechrau’n deg fod angen sicrhau bod yr holl asiantaethau priodol yn cydweithio a sefydlu trefn effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â’r gwahanol agweddau ar y broblem. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i bob rhan o’r diwydiant cig ac mae sawl busnes wedi dioddef oherwydd esgeulustod neu drosedd posibl lleiafrif bach iawn. Deallaf fod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.    

Mae diogelwch ein bwyd yn hollbwysig i’n hiechyd a’n lles. Dilysrwydd bwyd sy’n ennyn hyder defnyddwyr ac sy’n ennyn teyrngarwch i gynnyrch neu frand. Ni ddylai labeli fyth gamarwain defnyddwyr. Os yw’r pecyn yn nodi cig eidion dylai gynnwys cig eidion, ac nid porc, cyw iâr neu gig ceffyl.  

Yn ffodus iawn nid oedd perygl o safbwynt diogelwch bwyd ynghlwm wrth yr achosion o halogi gan gig ceffyl ond gwnaethant ysgogi pryderon mawr ynghylch dilysrwydd bwyd. Mae camarwain defnyddwyr yn gwbl anfaddeuol, boed er mwyn gwneud elw neu yn sgil aneffeithlonrwydd difrifol. Cafodd yr achosion o halogi a’r sylw dilynol yn y wasg effaith enfawr ar hyder defnyddwyr ac ar werthiant cig, yn enwedig cig eidion.  

Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i atal achosion tebyg yn y dyfodol er mwyn diogelu defnyddwyr a’r diwydiant hwn sy’n ddiwydiant mor bwysig yng Nghymru. Mae cynhyrchu cig coch yn cynrychioli dros 40% o gyfanswm gwerth blynyddol allbwn amaethyddol Cymru. Mae tua 12,000 o ffermydd ynghlwm wrth gynhyrchu cig eidion, ac mae’r gwaith hwnnw’n cefnogi’r diwydiannau cyflenwi a phrosesu cig. Mae statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) cig eidion Cymru yn destun balchder ac mae’n cynyddu’r gwerthiant o gi eidion gartref a thramor.  

O ystyried hyn oll credaf fod yn rhaid i ni ddysgu gwersi priodol o’r modd y gwnaethom ymateb i’r achosion diweddar o halogi yng Nghymru.  

Mae Defra, Yr Alban a’r Asiantaeth Safonau Bwyd wrthi’n cynnal adolygiadau a fydd yn cynnwys archwilio’r systemau sydd yn eu lle, gan ystyried a oes modd eu gwella, er mwyn sicrhau hygrededd y gadwyn fwyd. Rwyf wedi nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn barod iawn i gydweithredu â’r adolygiadau pwysig hyn. Credaf fod cydweithredu o’r fath yn hollbwysig gan fod ein cadwyn cyflenwi bwyd yn gymhleth ac nad yw’n gyfyngedig i ffiniau Cymru. Mae’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill yn effeithio ar ddefnyddwyr Cymru. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau hygrededd y gadwyn fwyd. Gwn y bydd hyn yn cynnwys cydweithio â Llywodraethau ar draws y DU ac yn yr UE er mwyn diogelu defnyddwyr.

Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion adolygu ymateb holl awdurdodau perthnasol Cymru i’r achosion cig ceffyl. Mae’r ffaith yr aeth Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Chymdeithas Llywodraeth Leol ati ar unwaith i gydweithredu yn galonogol iawn. Daeth yn amlwg yn gynnar iawn fod achosion tebyg hefyd i’w gweld y tu allan i Gymru. Sefydlwyd y cysylltiadau angenrheidiol rhwng asiantaethau gorfodi ar draws Ewrop. Rwy’n teimlo ein bod wedi gweithredu’n gyflym ac mewn modd priodol. Bydd y trefniadau cydweithredu hyn yn parhau ond mae gwersi i’w dysgu o hyd. O’r herwydd rwyf wedi penderfynu cynnal adolygiad a fydd yn ein helpu i fod yn fwy parod ar gyfer achosion tebyg yn ymwneud â safonau bwyd yn y dyfodol. Byddaf yn cyflwyno’r gwersi allweddol a ddysgwyd ym mis Gorffennaf.    

Mewn cyfarfod â’m Cyd-Weinidogion ar draws y DU yn Llundain dydd Llun cytunwyd y byddem yn gofyn am ragor o sicrwydd gan y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd ac y bwriedir eu cymryd ar draws yr UE. Mae defnyddwyr yn awyddus i weld bod camau’n cael eu cymryd ar pob lefel er mwyn ceisio sicrhau na fydd achosion tebyg yn y dyfodol. Byddaf yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.