Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi cadarnhau bod achos o enseffalopathi sbyngffurf buchol clasurol (BSE) wedi cael ei ddarganfod ar fferm yng Nghymru mewn buwch oedd wedi marw.
Daethpwyd o hyd i’r achos o ganlyniad i’r mesurau rheoli caeth sydd gennym ar waith. Nid yw wedi effeithio ar y gadwyn fwyd ddynol ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Iechyd y Cyhoedd Cymru wedi cadarnhau nad yw’r achos ynysig hwn yn beryglus i iechyd pobl.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o achosion achlysurol o BSE wedi eu darganfod ar draws y Deyrnas Unedig. Nôl yn 2013 oedd y tro diwethaf i achos o’r math hwn gael ei gofnodi yng Nghymru.
Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos â DEFRA ac APHA i archwilio i amgylchiadau’r achos hwn.
Fel rhan o system wyliadwriaeth gynhwysfawr, cynhelir prawf BSE ar bob anifail dros bedair oed sy’n marw ar y fferm. Er nad yw’r clefyd BSE yn gallu cael ei drosglwyddo o un anifail i’r llall, mae gwartheg eraill, gan gynnwys epil, yn gorfod cael eu holrhain a’u hynysu a byddan nhw’n cael eu difa yn unol â gofynion yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ogystal â’r mesurau sydd gennym ar gyfer stoc trig a bwydydd anifeiliaid, mae yna drefn reoli llym i ddiogelu defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar ‘ddeunydd risg penodedig’ fel y golofn gefn, yr ymennydd a’r penglog o’r carcas.
Mae’r ffaith bod yr achos hwn wedi cael ei ddarganfod yn profi bod y rheolau sydd gennym ar waith yn gweithio’n dda. Mae cig eidion ar draws y DU yn parhau i gael ei gynhyrchu’n unol â rheolau Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd.