Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus.

Fel Bwrdd, byddant yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau bod yr Academi yn cyflawni ei nod o sicrhau bod arweinwyr yn y system addysg yn cael mynediad at gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth cydlynol, hygyrch ac o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion lle bynnag y maent a beth bynnag fo cyfnod eu gyrfa a'u huchelgeisiau.

Dyma aelodau'r Bwrdd:

Cadeirydd

Dr Sue Davies - mae Sue yn arbenigwr o fri ym maes addysg. Mae ganddi brofiad academaidd yn ogystal â phrofiad o addysgu a sicrhau ansawdd. Mae wedi gweithio mewn sawl sector ac yn dod â gwybodaeth a statws sylweddol i'r rôl.

Aelodau'r Bwrdd

  • Dr John Graystone - mae gan John gyfoeth o brofiad, yn enwedig ym maes arweinyddiaeth Addysg Bellach, ond mae hefyd yn Aelod Bwrdd ac yn Gadeirydd ar gyfer nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector
  • Yr Athro Stephen Hagen - mae Stephen yn uwch-reolwr profiadol ac yn arweinydd academaidd yn sector Addysg Uwch y DU ac yn rhyngwladol
  • Michael James - mae gan Michael sgiliau gwerthfawr ym meysydd cyllid ac archwilio, ac mae ganddo hefyd brofiad helaeth fel arweinydd mewn cwmni cyllid byd-eang
  • Rosemary Jones OBE - mae gan Rosemary brofiad helaeth fel Pennaeth uwchradd ynghyd ag arbenigedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n siarad Cymraeg
  • Dr Paul Marshall - mae gan Paul brofiad sylweddol ym meysydd cyllid ac archwilio, yn ogystal â chefndir llwyddiannus mewn Addysg Uwch ar draws y DU
  • Davina Payne - mae gan Davina gefndir yn y cyfryngau a'r maes chyfathrebu ac yn berchen ar ei chwmni cyfryngol ei hun. Mae hefyd yn aelod lleyg o banel Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Claire Williams - mae Claire yn dod â phrofiad cyfredol gwerthfawr fel Pennaeth cynradd llwyddiannus i'r Bwrdd