Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae “arweinwyr sy’n ysbrydoli ac sy’n cydweithio i godi safonau” yn un o’r amcanion galluogi allweddol yn y ddogfen bolisi a gyhoeddwyd yn ddiweddar “Addysg yng Nghymru - Cenhadaeth ein Cenedl”. Mae datblygu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn hanfodol yn hyn o beth ac fel y cyfryw, hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y gwaith hwnnw.

Yn gyntaf, hoffwn ganmol y gwaith caled a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gennyf i arwain y gwaith o sefydlu’r Academi. Arweiniwyd y grŵp hwn yn fedrus gan Ann Keane (PAEM gynt) ers ei sefydlu ac yn ystod y misoedd diwethaf, gwnaed cryn gynnydd.

Fel y cyfryw, byddwn bellach yn hysbysebu ar gyfer Prif Swyddog Gweithredol newydd yr Academi a chaiff yr hysbyseb ei chyhoeddi heddiw. Y dyddiad cau fydd 21 Ionawr 2018. Caiff unigolyn ei benodi i’r swydd ddechrau mis Chwefror a chewch fwy o wybodaeth bryd hynny.

Bydd y swydd hon yn hanfodol i’r broses o sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol. Bydd y rôl yn cefnogi’r egin sefydliad ac yn cyfeirio ei waith. Bydd dod o hyd i’r unigolyn priodol ar gyfer y rôl hon yn sicrhau y gallwn symud ymlaen a chreu Academi a all ysbrydoli a chefnogi arweinwyr yng Nghymru.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn hefyd yn hysbysebu ar gyfer bwrdd yr Academi (a gaiff ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig drwy warant) gan recriwtio Cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill i’r Bwrdd. Rwyf yn awyddus i greu Bwrdd bach, hyblyg, y caiff ei aelodau eu recriwtio ar sail eu sgiliau ac a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad newydd hwn yn gweithredu’n ddidrafferth. .
Er mai megis dechrau y mae’r broses o ddatblygu’r Academi, rydym hefyd yn recriwtio grŵp bach o benaethiaid effeithiol a chredadwy o bob cwr o Gymru i weithredu fel y grŵp cyntaf o Aelodau Cyswllt yr Academi. Bydd y grŵp peilot hwn o Aelodau Cyswllt mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar waith cychwynnol yr Academi ac i helpu i sicrhau ei statws ymhlith arweinwyr ysgol a llywio rôl Aelodau Cyswllt yn y dyfodol. Er mwyn cefnogi’r rôl gyffrous a heriol hon, rhoddir cyfle i Aelodau Cyswllt gymryd rhan yn y rhaglen datblygu arweinyddiaeth gyntaf a gynllunnir ar ran yr Academi. Bydd y rhaglen hon yn meithrin ac yn atgyfnerthu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan strategol i arwain systemau ledled Cymru.

Caiff cyfleoedd eraill i’r sector gymryd rhan weithredol yn natblygiadau’r Academi eu datblygu. Bydd hyn yn cynnwys chwilio am aelodau i fod yn rhan o’r grŵp rhanddeiliaid. Bydd y grŵp hwn yn cynrychioli’r sector addysg cyfan yng Nghymru; gan gynrychioli amrywiaeth o sefydliadau ac ymarferwyr ar wahanol lefelau arwain o bob cwr o Gymru. Bydd ganddo gylch gwaith strategol, gan gynnig cymorth a her i’r Academi, a dylanwadu’n sylweddol ar waith yr Academi wrth iddi symud ymlaen.

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith o ddatblygu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn ystod y misoedd nesaf.