Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 12 Mawrth 2012 ynglŷn ag A4e, grŵp o gwmnïau sy'n darparu dysgu a chymorth a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer pobl anghyflogedig ledled y Deyrnas Unedig ac ymhellach i ffwrdd.  Mae'r cwmni yn destun ymchwiliad gan yr heddlu mewn perthynas â honiad o dwyll gan ei staff yn Berkshire.  

Dywedais fod gan A4e (Cymru) Cyf, un o'i is-gwmnïau, gontract Dysgu Seiliedig ar Waith o £6,101,831 gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011/2012. Mae A4e hefyd yn cael arian Ewropeaidd drwy chwe phrosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Gyda'i gilydd, mae'r contractau hyn yn werth £6.6 miliwn.

Mae'r Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael ei harchwilio gan Wasanaeth Sicrwydd a Llywodraethu Darparwyr (PAGS) Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd archwiliad o A4e (Cymru) Cyf ym mis Tachwedd 2010 ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wallau.  Fodd bynnag, yn sgil yr honiadau ynghylch arian a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Lloegr, aeth y Gwasanaeth Sicrwydd a Llywodraethu Darparwyr (PAGS) ati ar 5 Mawrth 2012 i gynnal archwiliad rheolaidd. Yn ystod yr archwiliad hwnnw, cynhaliwyd profion ar weithgarwch rhwng mis Tachwedd 2010 ac yn awr, ac roedd y canlyniadau yn gyson â'r rheini a gafwyd yn ystod yr adolygiad blaenorol. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wallau ac, er na all unrhyw archwiliad roi sicrwydd llawn, gallwn roi sicrwydd rhesymol bod A4e (Cymru) Cyf yn defnyddio arian Llywodraeth Cymru sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith mewn modd sy'n gydnaws â dibenion yr arian, ac sy'n cydymffurfio â'r amodau a roddwyd ar yr arian hwnnw.  

Mae'r gwaith o gael sicrwydd yng nghyd-destun Prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn parhau; bydd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn sicrhau bod y sicrwydd a geir yn cael ei rannu â phartneriaid ariannu cyhoeddus.