Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Grŵp o gwmnïau yw A4e sy'n darparu dysgu a chymorth a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer personau anghyflogedig ledled y DU ac ymhellach i ffwrdd.

Yr oedd A4e (Cymru) Cyf, un o'i is-gwmnïau, wedi tendro'n llwyddiannus i gyflenwi Dysgu Seiliedig ar Waith mewn nifer o sectorau galwedigaethol yng Nghymru.  Mae ganddo gontract Dysgu Seiliedig ar Waith o £6,101,831 gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011/2012;  mae wedi bod â chontractau ar gyfer cyflenwi dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ers 2004.  Mae A4e hefyd yn cael cyllid Ewropeaidd drwy chwe phrosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop.  Gyda'i gilydd, mae'r contractau  hyn yn werth £6.6 miliwn.

Mae'r cwmni yn destun ymchwiliad gan yr heddlu mewn perthynas â honiad o dwyll gan ei staff yn Berkshire.  

Dywedodd A4e y canfuwyd y twyll drwy ei bolisi chwythu'r chwiban a'r archwiliad mewnol a ddilynodd yn 2010.  Gwelwyd gweithgaredd twyllodrus posibl yn ei swyddfa yn Slough, Berkshire oedd yn ymwneud â chontract yr Adran Gwaith a Phensiynau.  Yn sgil hynny archwiliwyd pob un o'r hawliadau i weld i ba raddau yr oedd y twyll wedi digwydd.  Yn dilyn ymchwiliad mewnol, rhoddodd A4e adroddiad am ei ganfyddiadau i'r Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Tachwedd 2010 ac ar ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau ymchwilio i'r mater, cyfeiriwyd yr achos at Heddlu Thames Valley ym mis Mai 2011.  

Mae'r heddlu yn parhau â'i ymchwiliad ac yn ddiweddar cafodd pedwar cyn-weithiwr eu harestio dan amheuaeth o dwyll.  

Mae'r Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael ei harchwilio gan Wasanaeth Sicrwydd a Llywodraethu Darparwyr (PAGS) Llywodraeth Cymru.  Roedd yr adolygiad diwethaf, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2010, yn adolygiad llawn o'r systemau a phrofwyd y data hefyd.  Daeth yr adolygiad llawn o'r systemau i'r casgliad bod gan  A4e system gadarn o reolaeth fewnol ar gyllid Dysgu Seiliedig ar Waith.  Ni amlygodd y profion data unrhyw wallau.  

Serch hynny, er mwyn bod yn gwbl sicr, dechreuodd PAGS ar un o'i archwiliadau arferol ar 5 Mawrth 2012.  Diben yr archwiliad yw bod yn siŵr bod A4e wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru mewn modd sy'n gydnaws â dibenion yr arian ac yn gydnaws â'r amodau a roddwyd ar yr arian hwnnw.  Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei bod, ar hyn o bryd, yn fodlon parhau gyda'i threfniadau contract gydag A4e.  

Mae tîm PAGS hefyd yn cysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a'r Gronfa Loteri Fawr er mwyn gweithredu ar y cyd ac fel bod y sicrwydd a gafwyd yn cael ei rannu â'r partneriaid ariannu cyhoeddus, gan gynnwys WEFO yn achos y cyllid Ewropeaidd.