Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) eu 5ed adroddiad, yn dilyn un o’r prosesau adolygu gwyddonol mwyaf trylwyr erioed. Mae’r adroddiad yn nodi’r dystiolaeth o ddylanwad pobl ar y newid yn yr hinsawdd ac yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw amheuaeth bod ein hinsawdd yn cynhesu a bod y dystiolaeth o’r effaith ddynol yn fwy pendant nag o’r blaen hyd yn oed.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod cyfrifoldeb ar bob lefel o Lywodraeth i weithredu ynghylch y newid yn yr hinsawdd a byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â chamau gweithredu gwirioneddol yng Nghymru.
Dengys adroddiad yr IPCC bod tymheredd y byd yn debygol o godi o leiaf 2°C yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol, ac o bosibl cymaint â 5°C yn uwch, erbyn diwedd y ganrif hon. Mae’r adroddiad yn amlygu’r risg cynyddol a wynebwn oherwydd tywydd eithafol, sy’n peri costau economaidd a chymdeithasol. Rydym eisoes yn dioddef rhai o effeithiau tywydd eithafol yng Nghymru ac mae disgwyl i hynny waethygu, felly mae angen inni baratoi.
Bydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd i’w teimlo yn yr amgylchedd byd-eang ehangach ac yn ein bywydau bob dydd hefyd. Bydd angen inni sicrhau bod ein holl wasanaethau cyhoeddus yn ddigon cryf i wrthsefyll hyn a diwallu ein hanghenion sylfaenol megis ynni, bwyd a lloches. Gall tywydd eithafol amharu ar fusnesau, cadwyni cyflenwi a threfniadau teithio staff. Mae busnesau’n dibynnu ar amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys dŵr, gwaredu gwastraff, ynni a TGCh; os collir y gwasanaethau hyn oherwydd y tywydd, bydd y busnesau’n llai llewyrchus a phroffidiol.
Mae’n hanfodol gweithredu ynghylch y newid yn yr hinsawdd er mwyn sicrhau twf hirdymor. Dyna a ddangosir yn nadansoddiad yr Undeb Ewropeaidd sy’n amcangyfrif y byddai peidio ag addasu i’r newid hinsawdd yn costio €650 biliwn y flwyddyn neu 5-6% o Gynnyrch Mewnol Crynswth yr UE. Ond o weithredu’n brydlon ac yn effeithiol i’r bygythion newydd a chynyddol hyn, gallwn greu cyfleoedd newydd ac arwyddocaol. Os gweithredwn heddiw, gallwn sicrhau mantais gystadleuol i’n heconomi gan ysgogi busnesau a gweithgarwch economaidd sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon, yn arloesol ac yn gynaliadwy.
Yng Nghymru, rydym wedi gwneud dechrau da. Wrth drin gwastraff, er enghraifft, rydym eisoes wedi dechrau trawsnewid ein dulliau er mwyn helpu i greu economi gylchol sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon. Drwy fuddsoddi £21 miliwn ym mhrosiectau ARBED rydym yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn creu swyddi yn ogystal â helpu i gyflawni’r agenda newid hinsawdd. Yn yr economi ehangach, rydym yn gweld cynnydd sylweddol wrth wella allyriadau ac effeithlonrwydd. Mae ein heconomi werdd yn tyfu wrth inni barhau i symud ymlaen at ddyfodol carbon isel.
Ond mae Llywodraeth Cymru am fynd llawer pellach. Rydym wedi neilltuo £70 miliwn yn y gyllideb ddrafft i fuddsoddi rhagor mewn effeithlonrwydd ynni a £20 miliwn i leihau’r perygl o lifogydd, ac mae hynny’n arwydd o ymrwymiad y Llywodraeth hon i liniaru’r effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a datrys y ffactorau sy’n ei achosi. Ein huchelgais yw gwneud heriau’r newid hinsawdd yn greiddiol i’n penderfyniadau a’n gweithredoedd, fel rhan ganolog o agenda’r llywodraeth hon. Enghraifft o hyn yw fy ngwaith gyda chydweithwyr yn y Cabinet i ddatblygu Cynlluniau Addasu Sectorol er mwyn i’r newid yn yr hinsawdd gael ei brif-ffrydio yn ein polisïau a’n rhaglenni. Ym maes deddfwriaeth, bydd Bil yr Amgylchedd yn sôn am gynllunio adnoddau naturiol ac rwyf wrthi’n cydweithio â’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd.
Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn rhoi disgrifiad llawnach o’r cynnydd yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn ein hadroddiad blynyddol. Rwy’n bwriadu adolygu ac adnewyddu ein Strategaeth Newid Hinsawdd a sicrhau bod ein polisïau wedi’u hintegreiddio gyda meysydd portffolio eraill; ond nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd i benderfynu pa gamau gweithredu sydd eu hangen. Felly, rwy’n bwriadu dod ag unigolion allweddol ynghyd o bob rhan o Gymru er mwyn inni allu cydlynu a chyfuno ein hadnoddau a phenderfynu gyda’n gilydd ar y dull gorau o wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd, sy’n effeithio arnom oll.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio gydag eraill. Gyda’i gilydd, bydd ein camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn helpu i greu swyddi, tyfu economi gynaliadwy a threchu tlodi. Drwy hyn oll, byddwn yn helpu i sicrhau ffyniant hirdymor i Gymru.
Dolen i'r adroddiad: http://www.ipcc.ch/report/ar5/wg1/