Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ymateb heddiw i 48fed Adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion a osodwyd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar 21 Gorffennaf 2020. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau'r Corff am eu hadroddiad ac rwy'n croesawu eu hargymhellion a'u sylwadau annibynnol cadarn. Rwy'n gwybod hefyd bod eu cyngor yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan reolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), undebau llafur a staff fel ei gilydd.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi gallu derbyn argymhellion y Corff yn llawn.

Mae hyn yn cynnwys 2.8% o gynnydd yng nghyflog sylfaenol pob grŵp o feddygon a deintyddion; gan gynnwys ymgynghorwyr, meddygon dan hyfforddiant, meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt, ymarferwyr cyffredinol sy'n derbyn cyflog a deintyddion.

Mae'r 2.8% o gynnydd a argymhellir yng nghyflog ymarferwyr cyffredinol a deintyddion yn rhan o newidiadau contract cyffredinol a bydd fy swyddogion yn cydweithio â'r cyrff cynrychiadol.

Mae'r cynnydd hwn yn y cyflog yn cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion diwyd a'u cyfraniad allweddol at y GIG, gan ystyried fforddiadwyedd a'r flaenoriaeth a roddir i ofal cleifion.

Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i dalu am gost unrhyw gynnydd dros 1% a argymhellir ac felly bydd rhaid blaenoriaethu lefelau cyllidebol presennol i'w gwneud yn bosibl gweithredu'r cytundeb hwn.

Darparu gofal rhagorol yw ein blaenoriaeth bennaf. Dyna pam rydym yn awyddus i barhau i wneud cynnydd cadarnhaol gan helpu gweithlu'r GIG i hybu ei iechyd, ei les a'i ymgysylltiad.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.