Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ymateb heddiw i 47fed Adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion a osodwyd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar 22 Gorffennaf 2018. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau'r Corff am eu hadroddiad ac rwy'n croesawu eu hargymhellion a'u sylwadau annibynnol cadarn. Rwy'n gwybod hefyd bod eu cyngor yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan reolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), undebau llafur a staff fel ei gilydd.

Yn fy ymateb i argymhellion y Corff, rwy'n ystyried fforddiadwyedd y dyfarniad, y nodau a amlinellir yn Cymru Iachach a'n dyhead i barhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â BMA Cymru Wales i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, recriwtio, cadw staff a chynhyrchiant yn y gweithlu meddygol.

Felly, rwyf heddiw yn falch o gyhoeddi'r dyfarniadau cyflog a ganlyn ar gyfer ein staff Meddygol a Deintyddol gweithgar yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys:

Ymgynghorwyr

  • Cynnydd o 2.5% i gyflog sylfaenol a gaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019
     
  • Bydd gwerth y dyfarniadau ymrwymo a'r dyfarniadau rhagoriaeth glinigol cenedlaethol yn cael eu rhewi. Rwyf wedi clustnodi'r arian hwn a byddaf yn gofyn i gyflogwyr a BMA Cymru Wales weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gymdeithasol i roi cynigion imi ynghylch y ffyrdd y gellid defnyddio'r arian hwn yn fwy creadigol i greu mwy o gyfleoedd i wobrwyo’r gweithlu ymgynghori ehangach.

Meddygon Arbenigol a Chyswllt

Rwyf wedi ystyried yn ofalus sylwadau'r Corff ar y materion penodol sy'n ymwneud â morâl a chymhelliant mewn perthynas â'r grŵp hwn, a arweiniodd at eu hargymhelliad o ran cyflog. Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn buddsoddi i godi proffil ac atyniad rolau meddygon arbenigol a chyswllt ac, oherwydd hynny, roeddwn yn gallu cytuno ag argymhellion y Corff yn llawn y llynedd. Eleni rwyf yn ymrwymo i drafodaethau ar gytundeb cyflog sawl blwyddyn a fydd hefyd yn cynnwys diwygio contractau ar gyfer meddygon arbenigol a chyswllt i sicrhau bod y llwybr graddfa'n cael ei ystyried yn un cadarnhaol sy'n gwerthfawrogi eu gwaith caled a'u hymroddiad.

Bydd meddygon arbenigol a chyswllt yn cael:

  • codiad cyflog o 2.5% a gaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019;
     
  • y potensial ar gyfer 1% ychwanegol ar ben y 2.5% sydd eisoes wedi'i ychwanegu at y cyflog yn 2020/21 yn amodol ar ddiwygio contractau, drwy gytundeb sawl blwyddyn.

Meddygon a Deintyddion dan hyfforddiant

Mae meddygon iau yng Nghymru yn dal i fod ar y contract Bargen Newydd a gyflwynwyd dros 15 mlynedd yn ôl ac mae hyn yn awr yn creu rhywfaint o wahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â'r BMA i foderneiddio trefniadau cytundebol i ddiwallu anghenion y GIG a meddygon iau yng Nghymru. Yn y cyfamser, bydd meddygon iau yng Nghymru yn cael:

  • Codiad cyflog o 2.5% a gaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019

Meddygon Teulu a Deintyddion sy'n derbyn Cyflog

  • Codiad cyflog cyffredinol o 2.5% a gaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019

Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol

  • Cynnydd cyffredinol o 2.5% yn elfen cyflog eu contract a gaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019

Hyfforddwyr ac Arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol

  • Cynnydd o 2.5% yn llawn i werth y grant ar gyfer hyfforddwyr ymarferwyr meddygol cyffredinol a'r grant ar gyfer arfarnwyr ymarferwyr cyffredinol meddygol

Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol

  • Cynnydd o 2.5% mewn gwerthoedd contract a gaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019

Mae'r dyfarniad cyflog hwn yn cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion gweithgar a'u cyfraniad allweddol i'r GIG yng Nghymru gan mai hwn yw un o'r codiadau cyflog mwyaf ar gyfer ein staff meddygol a deintyddol mewn dros ddegawd gan hefyd ystyried fforddiadwyedd a blaenoriaethu gofal i gleifion.

Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu cyllid ychwanegol i dalu costau'r dyfarniad felly rwyf wedi buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn gallu rhoi'r fargen hon ar waith heb danseilio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Mae'r dyfarniad cyflog hwn, ynghyd â'r fargen sawl blwyddyn â staff sydd ar delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid, yn brawf cadarnhaol o'n hymrwymiad i'r gweithlu yng Nghymru. Rydym yn awyddus i ddal i wneud cynnydd cadarnhaol o ran cefnogi gweithlu'r GIG i roi hwb i iechyd, llesiant ac ymgysylltiad holl weithlu'r GIG, gan ddarparu gofal rhagorol i'r bobl yng Nghymru.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.