Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n ymateb heddiw i 46ed adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 24 Gorffennaf 2018. Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau’r Corff Adolygu am eu hadroddiad ac yn croesawu eu hargymhellion a’u sylwadau annibynnol cadarn. Rwy’n gwybod hefyd bod eu cyngor yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan reolwyr y GIG, undebau llafur a chynrychiolwyr y staff fel ei gilydd.
Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi gallu derbyn argymhellion y Corff Adolygu yn llawn.
Mae hyn yn cynnwys:
• 2% o gynnydd sylfaenol i feddygon a deintyddion sy’n derbyn cyflog, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol;
• 2% yn ychwanegol i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i grant hyfforddwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a chyfradd arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol;
• 1.5% yn ychwanegol i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS).
Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion sy’n gweithio’n galed a’u cyfraniad allweddol i’r GIG, gan dargedu cyflogau fel yr argymhellwyd gan y Corff Adolygu a chan ystyried fforddiadwyedd a rhoi blaenoriaeth i ofal cleifion.
Rwy’n falch fod BMA Cymru Wales wedi dychwelyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol fel rhan o Fforwm Partneriaeth Cymru gydag undebau llafur y maes iechyd, cyflogwyr a’r llywodraeth. Rydym yn croesawu eu hymrwymiad i barhau i gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i gyflawni’r uchelgeisiau a nodwyd yn Cymru Iachach, gan gyfrannu at yr agenda strategol yn ogystal â mynd i’r afael â heriau cydraddoldeb, recriwtio a chadw a chynhyrchiant o fewn y gweithlu iechyd, a rhoi Model Gofal Sylfaenol Cymru ar waith.
Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu unrhyw gyllid ychwanegol i helpu i dalu am unrhyw godiad a argymhellir uwchlaw 1%, felly rwyf wedi buddsoddi cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i alluogi i’r cytundeb hwn gael ei weithredu heb danseilio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Mae’r cytundeb cyflog hwn, law yn llaw â’m cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ynghylch staff yr Agenda ar gyfer Newid, yn arwydd cadarnhaol iawn o’n hymrwymiad i holl weithlu’r GIG yng Nghymru. Rydym yn awyddus i gynnal y cynnydd cadarnhaol hwn – mae helpu gweithlu’r GIG i hybu eu hiechyd, eu llesiant a’u hymgysylltiad, gan ddarparu gofal rhagorol felly, yn flaenoriaeth uchel yng Nghymru.