Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn ddiolch i’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion am ei 43eg adroddiad a nodi ei argymhellion a’i sylwadau. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gylch gwaith ynghylch cynnydd priodol ar gyfer y ddau grŵp contractwyr annibynnol yn unig – ymarferwyr meddygol cyffredinol ac ymarferwyr deintyddol cyffredinol. Dyma a ddigwyddodd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Mewn perthynas ag argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer 2015-16:
  • Yn achos ymarferwyr meddygol cyffredinol, rwyf wedi cytuno i dderbyn yr argymhelliad ynghylch y cynnydd yn nhâl meddygon teulu, net gyda threuliau, o 1% ar gyfer 2015-16. Rwyf wedi penderfynu mai cynnydd cyffredinol meddygon teulu yng Nghymru fydd 1.16% ar gyfer tâl a threuliau, sy’n cyd-fynd â’r cynnydd yn Lloegr.
  • Yn achos ymarferwyr deintyddol cyffredinol, wyf wedi cytuno i dderbyn yr argymhelliad ynghylch y cynnydd yn nhâl ymarferwyr deintyddol cyffredinol, net gyda threuliau, o 1%. Ar ôl cymhwyso’r un fformiwla yn fras ag yn 2014-15 i ganiatáu ar gyfer costau practis a threuliau eraill, rwyf wedi penderfynu cynyddu gwerth contractau deintyddol gan 1.34%.
  • Yn achos meddygon teulu ar gyflog, rwyf wedi cytuno i gynyddu isafswm ac uchafswm yr ystod cyflog gan 1%.
Ni chafwyd cylch cyflog mewn perthynas â meddygon a deintyddion a gyflogir gan y GIG yng Nghymru. Ar gyfer 2015-16, byddwn yn parhau â’r dull  a ddefnyddiwyd yn 2014. Felly bydd meddygon dan hyfforddiant, meddygon arbenigol ac arbenigwyr cysylltiol ac ymgynghorwyr sydd ar frig eu graddfa (ar frig y raddfa dyfarnu ymrwymiad i ymgynghorwyr) yn cael dyfarniad cyflog ar wahân o 2% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16, er mai dim ond dyfarniad cyflog ar wahân o 1% gaiff meddygon a deintyddion a symudodd i frig cynyddiad eu graddfa gyflog yn ystod 2014-15. Mae hyn eto yn gyson â’r dull a ddefnyddiwyd yn Lloegr.   Ni fydd unrhyw ddyfarniad cyflog i Uwch Swyddi Gweithredol (a elwir yn ffurfiol yn Uwch-reolwyr Pennaf) ar gyfer 2015/16. https://www.gov.uk/government/publications/review-body-on-doctors-and-dentists-remuneration-43rd-report-2015 (Saesneg yn unig)