Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 11 Mehefin mynychais, o bell, 35ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Brif Weinidog Gogledd Iwerddon (y cyn-Brif Weinidog erbyn hyn) y Gwir Anrhydeddus Arlene Foster ACD, a'r dirprwy Brif Weinidog, Michelle O'Neill ACD. Ymysg y mynychwyr eraill, a oedd yn y cyfarfod naill ai’n bersonol neu'n rhithwir, roedd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS; Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Brandon Lewis AS; An Taoiseach, Micheál Martin TD; An Tánaiste, Leo Varadkar TD; Y Gweinidog Materion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, Simon Coveney TD; Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon ASA; a Phrif Weinidogion Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.

Testun siom o hyd yw na wnaeth Prif Weinidog y DU fynychu’r cyfarfod.

Thema'r cyfarfod oedd blaenoriaethau ar gyfer yr adferiad ar ôl Covid-19 a chafodd y Cyngor drafodaeth adeiladol a llawn gwybodaeth ar y pwnc. Buom yn trafod effeithiau hirdymor posibl Covid-19, ac yn ystyried dulliau adfer cynaliadwy.

Dywedais mai lefel yr achosion Covid-19 yng Nghymru yw’r isaf yn y DU ac mai gennym ni y mae’r cyfraddau brechu uchaf, ond bod yr achosion yn cynyddu ac amrywiolyn delta yn lledaenu ledled Cymru. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y  'drydedd don' wedi dechrau yng Nghymru ac mai’r her uniongyrchol yn awr yw dal y tir yr ydym wedi’i ennill yn hytrach nag ychwanegu at y risgiau.

Mae Covid-19 wedi dangos yn glir iawn mor anghyfartal yw ein cymdeithas – mae effeithiau'r pandemig wedi cael eu teimlo'n gryf iawn yn y cymunedau hynny sydd leiaf tebygol o ymdopi. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein hymrwymo i greu Cymru fwy cyfartal, ac yn y cyd-destun hwnnw y mae angen inni ystyried yr adferiad.

Roedd y drafodaeth ar ddatblygiadau gwleidyddol diweddar yn cynnwys trafodaeth ar berthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Wrth gyfrannu at y ddadl, dywedais fod gan Lywodraeth Cymru ddatganiad a chynllun gweithredu ar y cyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf gyda Gweinidog Iwerddon dros Faterion Tramor Simon Coveney TD. Mae'r datganiad hwn ar y cyd yn cwmpasu chwe maes cydweithredu sy’n flaenoriaethau allweddol gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, ynni adnewyddadwy ac ymchwil, a dim ond un enghraifft o weithredu ar y cyd yw hyn. Mae'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio o’r fath i rannu profiad a syniadau; ac

Mae gweithredu ar y cyd yn parhau i fod yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, sicrhau twf gwyrdd ac adfer ar ôl colli bioamrywiaeth.

Cyfrannodd pob un o’r Gweinyddiaethau sy’n aelodau at y trafodaethau gwerthfawr a phwysig hyn. Cyhoeddwyd cyd-hysbysiad ar ôl y cyfarfod ac mae ar gael yn:

https://www.britishirishcouncil.org/bic/summits

Diolchais i Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a Phrif Weinidog Ynys Manaw, a oedd wedi cyhoeddi y byddent yn camu i’r neilltu o’r swyddi, am eu cyfraniadau i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a'n gwaith gyda'n gilydd ar agendâu a rennir.

Cynhelir Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor gan Lywodraeth Cymru.