Neidio i'r prif gynnwy

Julie James Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf ddweud wrth Aelodau y cefais fod yn rhan o Gyfarfod Gweinidogion Sector Gwaith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Gynhwysiant Digidol ddydd Gwener, 5 Mawrth a gafodd ei gynnal yn rhithiol oherwydd y gofynion o ran Covid-19 ar draws yr Aelod-Lywodraethau.

Yn cymryd rhan hefyd yr oedd yr Anrh Ray Harmer MHK, Gweinidog Polisi a Diwygio, Llywodraeth Ynys Manaw (Cadeirydd), Y Cynrychiolydd Andrea Dudley-Owen, Gweinidog Addysg, Chwaraeon a Diwylliant, Llywodraeth Guernsey, Eamon Ryan TD, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu, Llywodraeth Iwerddon, y Cynrychiolydd Jeremy Maçon, Gweinidog Addysg, Llywodraeth Jersey, Conor Murphy MLA, Gweinidog Cyllid a Diane Dodds MLA, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Gogledd Iwerddon, Ivan McKee MSP, Gweinidog Masnach, Arloesi a Chyllid Cyhoeddus, Llywodraeth yr Alban a Caroline Dinenage AS, y Gweinidog Gwladol dros y Digidol a Diwylliant, Llywodraeth y DU.

Yn ystod y drafodaeth, dywedais yn glir fod:

  • Cynhwysiant digidol yn fater pwysig o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.  Mae’n golygu sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn hyderus ac mewn ffyrdd a fydd yn cyfoethogi’u bywydau.  Rydym am i’r digidol helpu pobl i drechu’r anfanteision sy’n eu hwynebu.
  • Ein bod ni yn Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i feithrin y cymhelliant, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i allu gwneud penderfyniadau doeth a dewis sut i gymryd rhan mewn byd sy’n gynyddol ddigidol a chael y gorau ohono.
  • Ein bod am weithio i sicrhau na chaiff yr un dinesydd ei adael ar ôl wrth i ni roi’r digidol yn gyntaf a rhoi lle canolog i gynhwysiant digidol ym mhopeth a wnawn.

Cytunodd y Gweinidogion y dylai’r sector gwaith ar Gynhwysiant Digidol barhau i gydweithio ar themâu hyrwyddo diogelwch ar-lein, sgiliau digidol sylfaenol a chynhwysiant digidol ar draws yr Aelod-Lywodraethau.  Mae hynny’n cynnwys parhau i rannu arferion gorau yn y meysydd hyn.  Cytunodd y Gweinidogion hefyd y dylai’r sector gwaith roi sylw arbennig i bobl ifanc a datblygu sgiliau yn y dyfodol, yn ogystal â chydweithio â’r sector preifat a’r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiant digidol.

Ceir rhagor o wybodaeth yn: https://www.britishirishcouncil.org/second-bic-digital-inclusion-ministerial-hosted-isle-man-government