Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn unol â'r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf roi gwybod i'r Aelodau fy mod wedi cadeirio cyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 27 Ionawr 2025.
Roedd Mairi Gougeon MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir a'r Ynysoedd, Gillian Martin MSP, Ysgrifennydd Cabinet Dros Dro dros Sero-Net ac Ynni, Jim Fairlie MSP, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Andrew Muir MLA, y Gweinidog Amaethyddiaeth a Chysylltedd, a Steve Reed AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig, yn bresennol yn y cyfarfod.
Bu'r Grŵp yn trafod gwaith Tasglu Llywodraeth y DU ar yr Economi Gylchol. Pwysleisiais pa mor bwysig oedd trefniadau clir ar gyfer trafod materion sy'n effeithio ar y DU gyfan a pha mor bwysig yw hi bod llywodraethau'n gweithio mwy mewn partneriaeth â'i gilydd.
Cynhaliasom archwiliad dwfn cyntaf y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar reoli tir er lles yr amgylchedd. Roedd yn gyfle defnyddiol i ystyried yr amryfal gynlluniau sydd gennym ar gyfer rheoli tir er lles yr amgylchedd ac i edrych mewn ffordd gyfannol ar y cyfleoedd cyffredin i wella canlyniadau amgylcheddol ac economaidd ledled y DU.
Wrth drafod yr eitem ar yr agenda am Dagiau Adnabod Electronig ar gyfer Anifeiliaid Buchol ac am fanteision a heriau'r technolegau gwahanol, roedd cytundeb amlwg bod dulliau adnabod electronig yn bwysig i ddiogelwch ar ffermydd ac ar gyfer olrhain da byw.
Aeth y Grŵp ati wedyn i drafod rôl a phwysigrwydd y gwledydd datganoledig mewn trafodaethau posibl ar ddatblygu cytundeb iechydol a ffytoiechydol rhwng y DU a'r UE. Pwysleisiais pa mor bwysig yw hi ein bod yn cytuno ar sut y bydd y gwledydd datganoledig yn mynd ati i gymryd rhan mewn trafodaethau, gan ddatgan fy mod yn ffafrio trafod o ddifrif ac mewn ffordd ystyrlon.
Buom yn trafod Strategaeth Fwyd Genedlaethol arfaethedig Llywodraeth y DU, sut y byddai'n rhyngweithio â chyfrifoldebau datganoledig, a chyfleoedd i gydweithredu. Pwysleisiais pa mor bwysig yw datblygu strwythurau llywodraethu a fydd yn nodi sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud pan fyddant yn gysylltiedig â materion datganoledig neu'n effeithio ar fuddiannau datganoledig. Pwysleisiais hefyd y dylid ei gwneud yn glir i randdeiliaid pa bolisïau y’u bwriedir ar gyfer Lloegr (o dan Lywodraeth y DU) a pha bolisïau sydd wedi’u datganoli i Gymru.
Rwy'n falch bod y Grŵp Rhyngweinidogol hwn yn mynd ati mewn ffordd gadarnhaol i gydweithio ar draws ystod o bynciau, gan barchu'r cyd-destunau polisi a'r blaenoriaethau gwahanol sydd gan ein gwledydd.
Bydd hysbysiad am y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.