Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ynghylch tri safle VION UK Ltd yng Nghymru.

Mae cwmni 2 Sisters Food Group Ltd wedi cyhoeddi y bydd yn prynu safle prosesu cig coch VION ym Merthyr Tydfil, ynghyd â’u dwy uned prosesu dofednod yn Llangefni a Sandycroft.  

Ers i VION gyhoeddi eu bod yn bwriadu gadael y DU, rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â 2 Sisters Food Group Ltd er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol y safleoedd yng Nghymru. Bu cefnogaeth Llywodraeth Cymru’n allweddol i’r canlyniad hwn, a fydd yn diogelu miloedd o swyddi ac yn sicrhau’r potensial i greu swyddi newydd hefyd.
 
Mae’n galonogol bod un o’r busnesau bwyd mwyaf yn y DU sy’n ehangu’n gyflym wedi penderfynu buddsoddi yn y cyfleusterau hyn yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r cwmni i sicrhau dyfodol y safleoedd hyn.

Rydym yn parhau hefyd i weithio gyda VION UK Ltd a nifer o bartïon sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod safle Welsh Country Foods, Gaerwen, Ynys Môn, yn cael ei brynu’n llwyddiannus.