Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Mae'n annerbyniol na all rhai menywod a merched yng Nghymru fforddio prynu cynhyrchion hylendid benywaidd hanfodol pan fydd eu hangen arnynt. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth y gallaf i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn.
Fel rhan o’r adolygiad cyflym ar ryw a chydraddoldeb y mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i mi ei arwain, gofynnwyd i ni weithio gyda llywodraeth leol i greu ymateb cenedlaethol, cynaliadwy i dlodi misglwyf. Y datganiad hwn yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’r nod.
Ddoe, fe ysgrifennais at yr awdurdodau lleol yn cynnig pecyn cyllid i helpu i gyflwyno’r dull gweithredu newydd sydd ei angen.
Bydd yr awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i’r afael â thlodi misglwyf mewn cymunedau sydd â’r lefelau amddifadedd uchaf, trwy ddarparu cynhyrchion hylendid benywaidd i’r menywod a’r merched sydd eu hangen fwyaf.
Hefyd, bydd £700,000 o gyllid cyfalaf ar gael i wella cyfleusterau a chyfarpar mewn ysgolion, gan sicrhau bod merched a menywod ifanc yn gallu defnyddio cyfleusterau ystafell ymolchi da yn ôl yr angen.
Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wybod ble i dargedu camau gweithredu effeithiol er mwyn mynd i’r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau, a dyna pam rydym yn gofyn iddynt ddefnyddio eu gwybodaeth i helpu’r rhai sydd angen cymorth.
Bydd fy swyddogion yn cysylltu â phob un o’r awdurdodau lleol dros y dyddiau nesaf i’w hysbysu am y cyllid sydd ar gael iddynt, a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda nhw a gyda sefydliadau’r trydydd sector i werthuso’r sefyllfa a sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu yn effeithiol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.