Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gen i gyflwyno adroddiad ichi ar gyfarfod diweddaraf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 6/7 Gorffennaf yn Wrecsam o dan gadeiryddiaeth Peter Davies.

Dechreuais gydag ychydig eiriau ar ein canllaw ‘Paratoi ar gyfer Hinsawdd sy’n Newid’ a gyhoeddwyd ym mis Hydref.

Mae’r canllaw statudol newydd hwn yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i roi’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ar waith.  Rwy’n credu bod y canllaw newydd yn dyngedfennol i lwyddiant y Fframwaith Addasu a gafodd ei ddisgrifio yn y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Yn gynharach eleni, ymgynghoron ni ar yr arweiniad a’r cyfeiriad y dylem eu rhoi i gyrff a busnesau i baratoi at effeithiau newid hinsawdd.  Gwelwyd bod cefnogaeth gref i’n cynnig i addasu, asesu a chynllunio gam wrth gam, sef y trywydd y gwnaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addasu helpu i’w lunio.  

Mae’r canllaw newydd yn cynnig ffordd pum cam i ddatblygu ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.  Yn dilyn dwy adran gyntaf y canllaw, sy’n canolbwyntio ar ddeall beth yw addasu ac ar ymchwilio i’r problemau posibl, bydd adrannau eraill flwyddyn nesaf fydd yn troi eu sylw at gynllunio, gweithredu, monitro ac adolygu.

Rhoddais wybod i’r Comisiwn y byddwn yn cyhoeddi ein Strategaeth ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ddiweddarach eleni.  Rydym wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi arian sylweddol mewn prosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru, ond byddwn yn gweld mwy a mwy o’n hadnoddau yn cael eu targedu i godi ymwybyddiaeth am y peryglon mewn cymunedau. Ein hamcan yn y pendraw yw codi ymwybyddiaeth i sbarduno mwy o ymddygiad newydd ac o waith addasu, gwneud pobl yn fwy abl i ddiogelu’u hunain rhag llifogydd a helpu cymunedau i gymryd y camau i’w gwneud eu hunain yn fwy diogel.

Disgrifiais beth o’n gwaith ar arbed ynni a thlodi tanwydd.  Rydym wrthi’n caffael rheolwyr cynlluniau i gynnal ail gam Arbed, ein prif raglen arbed ynni strategol.  Bydd Cam 2 Arbed yn cychwyn flwyddyn nesaf ac rwy’n hyderus y gwnaiff fyd o wahaniaeth i’n cymunedau a helpu rhai o gartrefi mwyaf bregus Cymru i ddefnyddio llai o ynni ac i leihau eu hallyriadau.

Dros yr haf, rydym wedi parhau i weithio’n glos gydag Adran Ynni a Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig ar gynigion ar gyfer y Fargen Werdd cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar is-ddeddfwriaeth yr hydref hwn.

Rwyf hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda chwmnïau ynni i drafod y codiadau diweddar ym mhrisiau ynni ac i asesu beth mae cwmnïau ynni yn ei wneud i helpu cartrefi bregus.

Cyhoeddais mai Canolfan Gymunedol Pontrobert ger y Trallwng yw enillydd ein Her Newid Hinsawdd ar gyfer 2010-11.  Roedd dwy ganolfan gymunedol arall, Sir Fynwy ac Arberth, ynddi hefyd.  Mae’r canolfannau cymunedol wedi newid y ffordd y mae eu hadeiladau’n defnyddio ynni a dŵr ac wedi gweithio gyda grwpiau defnyddwyr i leihau eu hôl troed carbon.  Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Dŵr Cymru i gyd wedi helpu’r her, sy’n rhan o’n hymgyrch cysylltiadau cyhoeddus genedlaethol.

Rydym wrthi’n cynllunio ymgyrch PR newydd ar gyfer 2012 a fydd yn canolbwyntio fwy ar gynulleidfaoedd penodol.

Dywedais wrth y Comisiwn am yr ymgyrch 10:10 sy’n anelu at sicrhau gostyngiad o 10% o fewn blwyddyn yn yr allyriadau o ddefnyddio trydan y grid a thanwydd ffosil a theithiau busnes ym mhob rhan o ystad weinyddol Llywodraeth Cymru. Roedd yn dda gen i allu cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi lleihau allyriadau 11% yn y flwyddyn weithredu.  Gwnaed hynny trwy leihau teithiau staff, defnyddio TGCh yn fwy effeithlon a rhesymoli’r adeiladau rydyn ni’n eu defnyddio yn ogystal â buddsoddi mewn prosiectau lleihau carbon.  Yr her yn awr yw gwneud yn fawr o’r llwyddiant hwnnw a pharhau i leihau’n hallyriadau trwy ein Strategaeth Rheoli Carbon fewnol.

Cadarnheais inni gyhoeddi ein Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy blynyddol ym mis Awst a lansio ein Hadroddiad Blynyddol statudol ar Ddatblygu Cynaliadwy ym mis Medi.  Mae’n dda gen i ddweud ein bod wrthi’n cynnal adolygiad annibynnol o effeithlonrwydd ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, yn unol â’n dyletswydd statudol.

Gall y Dangosyddion ar gael yn:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2011/110830susdev11cy.pdf

Gall yr Adroddiad Blynyddol ar gael yn:
http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/110922sdarcy.pdf

I gloi, cadarnheais inni gyhoeddi ffigurau allyriadau nwyon tŷ gwydr 2009 ar gyfer Cymru fis diwethaf.

Mae’r ffigurau’n dangos i allyriadau gwympo’n sylweddol yn 2009.  Mae’r ugain mlynedd diwethaf wedi gweld newidiadau mawr yn ein ffordd o fyw a’n triniaeth o’r amgylchedd, felly dyma newyddion i’w groesawu.  Serch hynny, mae’n bwysig sylweddoli mai’r dirywiad yn yr economi oedd y prif reswm am y gostyngiad.  Gan edrych tua’r dyfodol, rhaid cynnal a gwella’n hymdrechion i leihau allyriadau ac mae gan bawb ei ran yn hyn o beth.

Wrth reswm, o ganlyniad i’r cwymp yn ein hallyriadau yn 2009, bydd llinell sylfaen dros dro allyriadau 2006-10 hefyd yn gostwng, gan ei gwneud hi gymaint yn anoddach inni daro’n targed o 3%.

Gall ffigyrau manwl ar gael yn:
http://uk-air.defra.gov.uk/reports/cat07/1109061103_DA_GHGI_report_2009_Main_text_Issue_1.pdf

Cafwyd trafodaeth yng nghyfarfod y Comisiwn hefyd ar rôl yr Awdurdod Lleol i ddarparu agenda’r newid yn yr hinsawdd ynghyd â thrafodaeth am ddatblygu adroddiad blynyddol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru gyda’r contractwyr sydd newydd eu penodi (CAG Consultants) a chyflwyniad ar adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i Lywodraeth Cymru ar ein gwaith i roi Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar waith.

Ymwelodd y Comisiwn â ffatri Sharp yn Wrecsam i weld drostynt eu hunain sut mae’r cwmni’n gwneud ac yn cynhyrchu paneli solar.  Cafwyd gweld hefyd y ganolfan solar newydd, a gwblhawyd llynedd.  Aeth y Comisiwn wedyn i weithdy ar addasu, lle ystyriwyd ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â’r peryglon i gymunedau, busnesau a chartrefi a ddaw yn sgil newid yr hinsawdd.

Caiff cyfarfod nesaf y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd ei gynnal yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2011.

I weld cofnodion cyfarfod y Comisiwn ym mis Hydref, ewch i
http://wales.gov.uk/docs/desh/meetings/111006commissiondraftminutesen.doc