John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Cynhaliwyd y sesiwn hwn ar y cyd â digwyddiad Addysg Uwch lle bum hefyd yn siarad ynddo. Roedd y digwyddiad hwnnw’n cynnwys arddangosfa o brosiectau ymchwil amgylcheddol o safon fyd eang gan brifysgolion Cymru a chyfres o anerchiadau gan ymchwilwyr blaenllaw. Denwyd yn agos i 200 o bobl i’r digwyddiad hwn, gyda chynrychiolaeth dda o fyd addysg uwch, busnes a’r trydydd sector.
Manteisiais ar y cyfle hwn hefyd i groesawu aelodau newydd y Comisiwn, sef Russell George AC, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Simon Dean, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Dr Lorraine Whitmarsh o Brifysgol Caerdydd a’r cynrychiolwyr ieuenctid newydd o’r Ddraig Ffynci, Lewis Harding a Bethan Adshead.
Yn fy anerchiad i aelodau’r Comisiwn, dywedais am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd.
Disgrifiais y canlyniadau da iawn a gafwyd yn sgil cymal cyntaf arbed. Arbed yw ein rhaglen perfformiad ynni strategol. Fel rhan o’i gymal cyntaf, mae arbed wedi helpu 28 o gynlluniau arbed ynni bro yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yn ymarferol, mae hynny wedi golygu gosod mesurau arbed ynni mewn dros 6,000 o gartrefi. Mae’r mesurau hynny wedi cynnwys inswleiddio waliau solid bron i 2,750 o dai cymdeithasol a phreifat, gosod dros 1,800 o baneli solar mewn tai cymdeithasol, a gosod offer solar i dwymo dŵr mewn 1,000 o gartrefi.
Un o lwyddiannau pennaf arbed yw ei fod wedi sbarduno darparwyr tai cymdeithasol, cynghorau a chwmnïau ynni i fuddsoddi gwerth £31m – ar ben y £30m y mae Llywodraeth Cymru wedi’i fuddsoddi. Roedd hynny’n cynnwys o leiaf £10m gan gwmnïau ynni trwy’r rhwymedigaeth a roddwyd arnynt gan Lywodraeth Prydain trwy’r Rhaglen Arbed Ynni Gymunedol i leihau allyriadau carbon. Cadarnheais wrth y Comisiwn bod y Llywodraeth ar fin cytuno ar ail gymal y rhaglen arbed ac rydym yn disgwyl i’r prosiectau cyntaf gychwyn ddechrau 2012.
Dywedais wrth y Comisiwn bod Llywodraeth Cymru wedi lansio’r cynllun grant ‘Cefnogi Byw yn Gynaliadwy’ ym mis Mawrth, fydd yn annog pobl i wneud eu rhan i arafu’r newid yn yr hinsawdd a hefyd yn helpu i ddatblygu’r galluoedd yng Nghymru i gael y gorau o’r cyfraniad hwnnw. Cafodd y ddau brosiect cyntaf fydd yn cael eu noddi eu cyhoeddi ddechrau’r mis: Y Dref Werdd, prosiect rheoli gwres ym Mlaenau Ffestiniog, a Her Beicio Caerdydd sy’n annog pobl ardal Caerdydd i fynd ar eu beiciau.
Cadarnheais hefyd ein bod, trwy’r gwasanaeth ‘Cefnogi Byw’n Gynaliadwy’, yn cysylltu pobl â chyngor arbenigol ac yn eu helpu ar gyfer darparu a gwerthuso. Mae’r cyfuniad o grantiau a chyngor arbenigol eisoes yn sbarduno gweithredu lleol ledled Cymru.
Dywedais wrth y Comisiwn ein bod yn para i weithio gydag Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU ar y fframwaith sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer ‘y Fargen Werdd’. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw golwg fanwl ar benderfyniadau Llywodraeth Prydain er mwyn asesu eu heffaith yng Nghymru. Bu hyn yn destun cyfarfod diweddar gyda chwe chwmni darparu ynni yng Nghymru.
Dywedais hefyd fod Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi cyhoeddi ei drydydd adroddiad cynnydd i’r Senedd. Mae’r Pwyllgor yn dweud bod angen prysuro ymdrechion i leihau allyriadau yn y DU yn fawr iawn i gwrdd â’r targedau ar gyfer lleihau ynni, a byddwn yn ystyried yn ofalus y cyngor y mae’r Pwyllgor yn ei roi ar y meysydd lle gallem arbed ynni fwyaf.
Disgrifiais y mentrau newydd rwyf wedi’u cyhoeddi ers dechrau ar fy swydd ac yn arbennig y cynllun Nyth/Nest. Mae’r cynllun Nyth yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl Cymru ar sut i ostwng eu biliau tanwydd. Mae’r cyngor ar gael i unrhyw un sy’n cysylltu â’r cynllun a bydd pawb sy’n cysylltu â Nyth yn cael cynnig rhyw fath o help. Prif ffocws Nyth yw tlodi tanwydd, ond mae’r cynllun yn cynnig helpu busnesau Cymru hefyd, gyda llawer o’r help hwnnw’n cael ei roi trwy fusnesau bach mewn cydweithrediad â Nwy Prydain.
Yn ei flwyddyn gyntaf, rydym yn rhagweld y bydd Nyth yn cynghori ac yn helpu hyd at 15,000 o deuluoedd yng Nghymru. Nwy Prydain a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni sy’n rhedeg y cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
Cefais ddweud hefyd am y diweddaraf am yr ymgynghoriad Datblygu’r Gallu i Wrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd, a ddaeth i ben ym mis Mawrth. Roedd yn disgrifio’n cynigion ar gyfer rhoi’r mesurau addasu oedd yn y Ddeddf Newid Hinsawdd ar waith ac ar gyfer y canllawiau i awdurdodau ar asesu a pharatoi ar gyfer effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Fy amcan yw cyhoeddi’r canllaw yn yr hydref. Mae’n elfen bwysig o’r Fframwaith Addasu yn y Strategaeth Newid Hinsawdd.
Yn fwy diweddar, rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i gynnal pedwar digwyddiad ar draws Cymru i helpu mudiadau cymunedol a gwirfoddol ddeall yn well sut y bydd newid hinsawdd yn debygol o effeithio arnyn nhw a’u cymunedau.
Cadarnheais ein bod wedi creu cynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, gwneud datblygu cynaliadwy yn egwyddor ganolog i’w holl waith a chreu corff newydd annibynnol i fod yn gyfrifol am ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Bydd amserlen ar gyfer mynd â’r cynigion deddfu hyn yn eu blaen yn cael ei chyhoeddi maes o law.
O ran y Strategaeth Newid Hinsawdd ei hun, rydym wrthi’n paratoi fframwaith monitro cynhwysfawr i fesur i ba raddau yr ydym yn llwyddo i gwrdd â’n targedau lleihau allyriadau. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfres o ddangosyddion i dracio hynt mesurau y Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleihau Allyriadau. Mae’r fframwaith hwn yn gyson â’r hyn sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU ar gyfer monitro hynt ei Chyllidebau Carbon hi. Byddwn yn cadw golwg hefyd ar ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar allyriadau, fel perfformiad yr economi, er mwyn inni allu nodi’n perfformiad o ran ein hymrwymiadau penodol yn ein hadroddiad blynyddol flwyddyn nesaf o fewn cyd-destun tueddiadau allyriadau ehangach.
Bydd cyfarfod nesa’r Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei gynnal yn y Gogledd ym mis Hydref 2011.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.