Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd wrth yr Aelodau imi fod yng nghyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd ar 17 Ionawr 2022, ac yn gadeirydd arno.  Y prif bwnc trafod oedd Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU).

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod yr oedd Michael Matheson ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero Net, Ynni a Thrafnidiaeth, Edwin Poots ACD, y Gweinidog Amaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig, Greg Hands AS y DU, y Gweinidog Gwladol dros Fusnes, Ynni a Thwf Glân, a Lucy Frazer AS y DU, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys.

Fel Awdurdod ETS y DU, trafodwyd cychwyn Mecanwaith Rheoli Costau (CCM) ETS y DU  ddechrau mis Ionawr. I weld y cyd-ddatganiad gan Awdurdod ETS y DU – sydd â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn aelodau ohono – ar Fecanwaith Rheoli Costau'r cynllun, cliciwch ar y ddolen isod:

UK ETS Authority Statement: Cost Containment Mechanism decision – January 2022

Pwnc trafod arall yn y cyfarfod oedd yr ymgynghoriad arfaethedig ar gynigion i ddatblygu ETS y DU. Roeddwn yn falch clywed bod swyddogion Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyd yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn a phwysleisiais yr angen i gynnal yr ymgynghoriad cyn gynted â phosibl.