Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Fel y nodir yn Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rôl o ran arwain y gwaith o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ni gymryd camau gweledol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd er mwyn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Ni oedd un o lywodraethau cyntaf y DU i gofrestru’i hystâd weinyddol gyfan i’r ymrwymiad 10:10. Ein nod oedd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ein ystâd o 10% mewn blwyddyn. Dechreuodd ein blwyddyn weithredu 10:10 ym mis Gorffennaf y llynedd a bydd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2011.
Rwy’n hynod o falch ein bod bron wedi cyrraedd y targed hwn. Yn chwe mis cyntaf ein blwyddyn weithredu (Gorffennaf – Rhagfyr 2010) llwyddwyd i leihau 1,564 o dunelli ar ein hallyriadau, sef 90% o’r targed ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn golygu’n bod yn debygol o ragori ar ein targed erbyn diwedd ein blwyddyn weithredu 10:10.
O ran data perfformiad allyriadau nwyon tŷ gwydr gwirioneddol o drydan, tanwydd ffosil a teithio busnes yn chwe mis cyntaf blwyddyn weithredu 10:10 (Gorffennaf – Rhagfyr 2010) roedd gostyngiad o 19% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2009 (y flwyddyn sylfaen). Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 13% mewn allyriadau trydan, gostyngiad o 23% mewn allyriadau defnydd nwy a gostyngiad o 36% mewn allyriadau teithio busnes.
Waeth pa mor lwyddiannus ydym o ran lleihau allyriadau, mae rhai allyriadau na allwn eu lleihau oherwydd technolegau ac isadeiledd presennol.
O fis Ebrill 2011, bydd gan Lywodraeth y Cynulliad Gynllun Buddsoddi Carbon a fydd yn codi tâl ar adrannau am bob taith awyr, pob taith fflyd Gweinidogol a phob taith car llog. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar Weinidogion a swyddogion.
Mae’r Cynllun yn adlewyrchu ymrwymiad a wnaed yn y Cod Gweinidogol yn 2007. Bydd Adran yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn rhoi arian am allyriadau pob adran dros y pedair blynedd diwethaf (2007-11), sef oddeutu £45,000. Rhagwelir y bydd y Cynllun yn cynhyrchu hyd at £10,000 y flwyddyn, gan leihau o flwyddyn i flwyddyn wrth i ôl-troed carbon y sefydliad leihau.
Caiff yr arian ei fuddsoddi mewn prosiectau arloesol lleihau allyriadau yn Affrica is-Sahara sy’n gysylltiedig â’n rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fydd yn rhedeg y Cynllun.