Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Ebrill, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad ardrethi newydd, parhaol ar gyfer busnesau bach, gan roi sicrwydd i fusnesau bach yng Nghymru. Ar y pryd, dywedom y byddem yn parhau i ddatblygu'r cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion Cymru, ac yn targedu cymorth yn unol â'n blaenoriaethau ehangach.

Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cael ei ehangu ymhellach i ddarparu 100% rhyddhad i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu'r sector i gyflawni ein cynnig gofal plant i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant er mwyn galluogi rhieni plant tair i bedair oed i fanteisio ar gyfleoedd gwaith; a hybu llesiant economaidd a thwf tymor hir.

Bydd y lefel uwch o ryddhad ardrethi yn dechrau ar 1 Ebrill 2019. Bydd yn weithredol am dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2022, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei werthuso er mwyn asesu ei effaith.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o'n hymrwymiad i flaenoriaethu buddsoddiad yn y sector gofal plant fel y nodir yn ein cynllun deg mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar a'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Bydd yn gydnaws â'r dull gweithredu pwrpasol yr ydym yn ei ddefnyddio i helpu'r sector i gynyddu ei gapasiti a'i allu; creu swyddi, lleoedd gofal plant ychwanegol, a thwf tymor hir ar draws y sector.        

Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn darparu cymorth ychwanegol gwerth £7.5m i ddarparwyr gofal plant yn ystod y cyfnod hwn. Yn unol â'n hegwyddorion treth, drwy ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach byddwn yn targedu'r cymorth yn fwy effeithiol tuag at y busnesau hynny lle y bydd yn cael yr effaith fwyaf, gan helpu i gynnal swyddi, hybu twf, a darparu manteision cyffredinol ar gyfer ein cymunedau lleol.  

Yn y tymor hir, rydym yn bwriadu defnyddio dull gweithredu blaengar, teg, a thryloyw wrth weithredu system trethi lleol yng Nghymru, system sy'n darparu cyllid angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol. Mae gweithredu cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach sy'n ymatebol ac sy'n datblygu'n gyson yn gam allweddol tuag gyflawni'r nod hwn.